Amgueddfa ddiddorol o fywyd gwledig yng Nghymru’r 19eg ganrif, sydd wedi’i lleoli mewn bwthyn gweithiwr
Gadawodd Henry Jones yr ysgol yn 12 oed. Gweithiodd yn y pentref fel crydd gyda’i dad ystod y dydd, gan astudio ei lyfrau gyda’r nos. Enillodd ysgoloriaeth i hyfforddi fel athro.
Roedd Henry yn athronydd ac athro disglair, a daeth yn Athro Athroniaeth Foesol ym Mhrifysgol Glasgow. Ni anghofiodd fyth ei wreiddiau gwerinol a gweithiodd yn galed i wella’r gyfundrefn addysg yng Nghymru. Yn 1912 cafodd ei wneud yn farchog, ac yn 1922 yn Gymrawd er Anrhydedd.
Yn 1934, cafodd ei gartref fel plentyn, Y Cwm, ei agor fel amgueddfa. Gallwch ymweld â gweithdy’r crydd, y gegin fach a’r ystafell wely lle’r arferai Henry a’i deulu weithio a byw. Gallwch hefyd ddysgu mwy am y capel, yr ysgol a bywyd pob dydd mewn ‘pentref ucheldirol pellennig – y math o gartref y tarddodd y rhan fwyaf o’r hyn sydd orau yng Nghymru ohono’ (Amgueddfa Syr Henry Jones).
Mai: Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-5pm
Mehefin i Fedi: Dydd Mawrth - Dydd Gwener 10.30am – 1pm, 2-5pm, Sadwrn a Sul 2-5pm
Ar yr A548 rhwng Abergele a Llanrwst
Llanrwst - 8 milltir
Gorsaf bws wrth Swyddfa'r Bost
Dilynwch lwybrau Sustrans
O ganol y bentref cerddwch i gyfeiriad Llanrwst. Mae'r amgueddfa ar y dde.
Dim mynediad cadair olwyn i'r llawr cyntaf
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 875672 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 116