Taith trwy’n gorffennol diwydiannol mewn tirlun ddramatig
Cafodd pentref Abergynolwyn ei gynllunio gan reolwyr y chwarel i letya’r chwarelwyr a’u teuluoedd. Mae’r rhesi o dai i’w gweld o hyd. Mae’r amgueddfa yn y pentref yn cynnwys caffi ac arddangosfa o hen luniau.
Dilynwch y llwybr troed diddorol sydd wedi ei arwyddo i’r chwith o’r amgueddfa. Mae’r daith yn cymryd tua 15 munud trwy goetiroedd, ar hyd glannau afon fyrlymus Nant Gwernol, i blatfform y rheilffordd - pen draw dwyreiniol Rheilffordd Talyllyn.
Oddi yma, mae llwybr arall, wedi ei farcio fel ‘Llwybr y Chwarelwr’, yn mynd i fyny i Chwarel Lechi Bryneglwys, y chwarel fwyaf a phwysicaf yn yr ardal. Wrth i chi ddringo i fyny’r llwybr, sylwch ar y system helaeth o dramffyrdd ac incleiniau a oedd unwaith yn gwasanaethu’r chwarel. Cafodd y mwyafrif o adeiladau’r chwarel eu dymchwel yn yr 1980au, ond mae tomenni llechi helaeth i’w gweld ar ben y bryn.
Un stori ddiddorol am y chwarel yw bod dynion o Sir Gaerhirfryn wedi dod i weithio yma yn yr 1860au, oherwydd prinder cotwm yn y melinau o ganlyniad i Ryfel Cartref America. Roedd ffatri llechi ysgrifennu’n gysylltiedig â’r chwarel – roedd hyn ar adeg cyn dyddiau papur ac inc, pan fyddai plant ysgol yn ysgrifennu ar lechi gyda phensiliau o lechi.
O Chwarel Lechi Bryneglwys mae golygfeydd eang o’r bryniau cyfagos ac o lethrau deheuol Cadair Idris. Yn nythu yn Nyffryn Dysynni fymryn allan o’r golwg mae Castell y Bere, un o gestyll tywysogion Gwynedd.
Mae pen draw gorllewinol Rheilffordd Talyllyn yn nhref arfordirol Tywyn, tua 5 milltir i lawr y dyffryn.
Gwiriwch wefan Rheilffordd Talyllyn
Mae Abergynolwyn oddi ar yr A493 o Machynlleth i Ddolgellau ar y B4405
Tywyn - 7 milltir
Gorsaf Drên Abergynolwyn neu gorsaf bws Railway Inn ar gyfer Chwarel Bryneglwys
Llwybr beicio gerllaw
Dilynwch yr arwyddbyst heibio Caffi Abergynolwyn am orsaf Nant Gwernol. Mae llwybrau i Chwarel Bryneglwys wedi eu harwyddo o Nant Gwernol, a dilynwch ffordd gul i fyny'r bryn.
Argymhellir esgidiau cerdded ar gyfer Chwarel Bryneglwys. Mae'n lwybr serth i fyny'r bryn - oddeutu 1 awr o siwrne.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: Abergynolwyn Station SH 671063, Chwarel Bryneglwys SH 695054 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124