Ymunwch â cherddwyr a dringwyr wrth iddynt ddilyn ôl traed mwynwyr copr i lyn gyda chysylltiadau Arthuraidd, sy’n swatio dan gopa’r Wyddfa.
Mae cerddwyr sy’n dringo’r Wyddfa’n defnyddio hen Lwybr y Mwynwyr. Wedi ei adeiladu i gludo copr o Weithfeydd Copr Britannia ger Llyn Glaslyn i Ben y Pas, o ble roedd yn cael ei gario i Gaernarfon.
Ger ochr Llyn Llydaw gallwch weld yn glir olion hen waith melin mathru Britannia. Cysylltwyd y felin hon â’r mwyngloddiau ymhellach i fyny’r llethrau gan raffordd awyr (sydd wedi hen ddiflannu). Daeth y mwyngloddio copr i ben yn 1916 ond mae tomenni gwastraff y mwyngloddiau yn parhau i’w gweld ar y dirwedd o amgylch Llyn Glaslyn. Rhybudd: Ni ddylid mentro i mewn i’r mwyngloddiau ar unrhyw gyfrif.
Mae Llyn Llydaw wedi’i drwytho yn chwedl Arthur. Nid yw’n anodd dychmygu’r llyn fel y fan ble taflwyd Caledfwlch, cleddyf Arthur gan ei farchog ffyddlon Syr Bedwyr i Forwyn y Llyn. Yn uchel uwch ei ben mae ‘Bwlch y Saethau’, golygfa arall â chysylltiad Arthuraidd.
Wrth i chi groesi’r sarn, a adeiladwyd yn 1853 i ddod â chopr i lawr i Ben y Pas, rhyfeddwch at y golygfeydd syfrdanol o’ch blaen tua chopa’r Wyddfa. Cyn i’r sarn gael ei hadeiladu, cariwyd ceffylau a wagenni yn llawn copr ar draws Llyn Llydaw ar rafftiau. Yn dilyn damwain pan foddwyd ceffyl yn 1853, penderfynwyd y dylid adeiladu sarn.
Er mwyn adeiladu sarn, roedd yn rhaid gostwng lefel y dŵr o 12 troedfedd, ac yn ystod y broses canfuwyd hen ganŵ wedi ei chloddio o hen dderwen - prawf fod dyn wedi crwydro’r mynyddoedd ers miloedd o flynyddoedd.
Parcio yn Pen y Pass
Betws y Coed - 11 milltir (oddeutu)
Gorsaf bws Pen y Pass
Dilynwch Lwybr y Mwynwyr at Llyn Llydaw a Llyn Glaslyn. Mae Melin Britannia ochr yn ochr â Llyn Llydaw. Gellir gweld y mwyngloddiau uwchben Llyn Glaslyn. Oddeutu 3 milltir o faes parcio Pen y Pass at Llyn Glaslyn.
Gellir gweld Melin Britannia ochr yn ochr â Llyn Llydaw. Gellir gweld y mwyngloddiau uwchben Llyn Glaslyn a NI DDYLIR mynd mewn iddynt.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 629545 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115