O ymladd ceiliogod i ddŵr yfed glân...
Ar un adeg roedd y sgwâr hanesyddol yng nghanol Caernarfon yn ddim mwy na thwmpath caregog o ddaear. Fe’i defnyddiwyd fel marchnad anifeiliaid ac fel talwrn ymladd ceiliogod cyn iddo gael ei lefelu yn 1817 i greu'r maes a welwn heddiw.
Mae muriau mawreddog Castell Caernarfon yn gormesu’r rhan orllewinol o’r Maes. Yn union islaw’r Maes mae Cei Llechi hanesyddol Caernarfon ar lannau’r afon Seiont. Yn union uwchben y cei llechi ac yn agos at y castell saif cerflun David Lloyd George, y bachgen carismatig a fagwyd mewn bwthyn a gododd i arwain Prydain ac mae pobl Caernarfon yn ei gofio’n dda. Mae cerflun arall yn coffáu bywyd Syr Hugh Owen, a fu’n gyfrifol am ddod ag addysg uwch i Gymru. Roedd Owen yn un o sefydlwyr Coleg y Normal, Bangor, a agorodd ei ddrysau yn 1858 i hyfforddi athrawon. Ef hefyd fu’n gysylltiedig â chreu Coleg Prifysgol Aberystwyth a agorwyd yn 1872.
Yn ystod y Pedwerydd Pandemig Colera (1863-75) bu farw 75 o bobl leol o’r afiechyd. Penderfynwyd adeiladu ffownten ar y Maes er mwyn cyflenwi’r dref â dŵr yfed glân. Fe’i hagorwyd yn 1868 ond ers hynny cafodd ei hamnewid am ddyluniad mwy cyfoes. Mae olion y ffownten wreiddiol wedi’i hail leoli yn Stryd y Llyn ac yno mae hyd heddiw.
Heddiw, mae’r Maes yn le delfrydol i orffwys traed blinedig a mwynhau golygfeydd a synau calon hanesyddol Caernarfon.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Mynediad am Ddim
Dilynwch arwyddion am y Castell o'r A487
Gorsaf agosaf yw Bangor - 9 milltir
Bysiau rheolaidd i leoliadau niferus yn dod i'r Orsaf Bws 100 llath i ffwrdd
Llwybr Beic i Fangor ac i'r De i Borthmadog ar Sustrans Llwybr 8
Parcio Anabl yn unig ar y Maes - meysydd parcio niferus gerllaw
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 479626 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: OS 115