Etifeddiaeth hynafol y Cristnogion Celtaidd
Tybir bod hen eglwys Sant Merin yn Aberdaron wedi’i gadael yn fuan ar ôl y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ychydig sy’n weddill o’r adeilad gwreiddiol ond heddiw mae’r safle’n cynnwys sylfaeni’r eglwys fechan (31 troedfedd 6 modfedd wrth 16 troedfedd 9 modfedd / 9.5m wrth 5m) a’r fynwent sgwâr (oddeutu 26 metr sgwâr). Er nad yw waliau’r eglwys erbyn hyn brin droedfedd o uchder, mae wal y fynwent wedi goroesi at uchder o dair troedfedd mewn mannau er bod y rhan fwyaf erbyn hyn wedi gordyfu.
Ychydig iawn o wybodaeth sydd am Sant Merin. Yn ystod y chweched a’r seithfed ganrif roedd mynach Gwyddelig a chenhadwr a elwid yn Sant Mirin neu Mirren yn brior Abaty Bangor yn County Down. Gadawodd y prior ei gartref yn Iwerddon i sefydlu cymuned grefyddol ger yr hyn a elwir heddiw yn Glasgow. Datblygodd y sefydliad hwnnw i ddod yn Abaty Paisley. Ni wyddys a oedd ganddo unrhyw gyswllt ag Aberdaron a’r cyffiniau ai peidio. Roedd cyswllt agos rhwng ‘Cymry’r Gogledd’ fel y’u gelwir â’u perthnasau yng Ngwynedd, fodd bynnag, tystia cofnod ysgrifenedig canoloesol Brut y Tywysogion bod dynion Strathclyde wedi gwrthod ag ymuno â’r Saeson a bu’n rhaid iddynt adael eu gwlad a symud i Wynedd.
Troi oddi ar y B4413 i orllewin Pen y Groeslon, ac yna isffyrdd tuag at y môr. Yn ymyl fferm Ty Mawr
Pwllheli - 15 milltir
Gorsaf agosaf yw Capel Rhydlios - 1 milltir
Yn ymyl llwybr beicio Gorllewin Pen Llyn
Dim mynediad cyhoeddus. I'w weld o'r lôn. Dim parcio yn ymyl y safle.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 173 314 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123