Chwedl yr ynys ag 20,000 o seintiau
Gorwedd cyrff nifer helaeth o ddynion sanctaidd yno yn ôl y sôn (Gerallt Gymro).
Honnir bod ynys anghysbell a sanctaidd Enlli yn safle claddu i tua 20,000 o seintiau Cymru. Efallai bod y nifer wedi’i or-ddweud ond yn sicr mae llawer o safleoedd claddu hynafol wedi’u darganfod yma. Fe ddisgrifir yr ynys gan feirdd y ‘ffordd i’r Nefoedd a’r porth i Baradwys’; roedd tair pererindod i Abaty’r Santes Fair yn cynnig yr un iachawdwriaeth ag un bererindod i Rufain.
Mae adfeilion tŵr yr Abaty Awstinaidd o’r drydedd ganrif ar ddeg yn un o’r henebion amlycaf ar yr ynys. Credir bod sylfaen yr abaty yn dyddio’n ôl i 516 pan sefydlodd y Llydäwr, Sant Cadfan, y gymuned gyntaf o Gristnogion Celtaidd yma. Yn y capel modern gerllaw gellir gweld carreg gerfiedig o’r nawfed ganrif gydag arysgrif wedi’i hindreulio.
Tybir mai’r hen goeden afalau geinciog ger Plas Bach yw’r unig beth sydd wedi goroesi o berllan hynafol yr abaty. Ystyria arbenigwyr heddiw bod Afal Enlli yn unigryw. Erbyn hyn mae toriadau o’r goeden yn cael eu gwerthu i godi arian i Ymddiriedolaeth Enlli a brynodd yr ynys yn 1979 ar ôl apêl gyhoeddus. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i ddiogelu bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Enlli a hyrwyddo’r ynys fel cyrchfan o harddwch naturiol i dwristiaid a chyrchfan i bererinion.
Dynodwyd yr ynys yn Warchodfa Natur Genedlaethol yn 1986.
Mae cychod yn gadael o Borth Meudwy, Aberdaron. Parcio heibio fferm Cwrt ar y chwith.
Gorsaf agosaf yw Pwllheli - 16 milltir
Bws i Aberdaron neu Bwllheli
Ni chaniateir cwn. Cychod yn ddibynnol ar y tywydd. Rhaid codi defnyddwyr cadair olwyn i mewn i'r gwch - argymhellir trafod o flaen llaw.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH120221 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123