Dewch o hyd i gyfoeth o Gelf a Chrefft
Ystyrir mai Eglwys Sant Marc, Brithdir ger Dolgellau, yw un o’r eglwysi celf a chrefft mwyaf godidog a chyflawn yng Nghymru. Adeiladwyd yr eglwys yn y 1890au. Bellach, saif yn segur ac mae’r eglwys yng ngofal y Friends of Friendless Churches.
Mae Eglwys Sant Marc yn adeilad rhestredig Gradd I ac fe’i hadeiladwyd yn unol â dyluniad y pensaer enwog, Henry Wilson, ffigwr arweiniol yn y symudiad Celf a Chrefft. Fe’i comisiynwyd gan Louisa Tooth er cof am ei gŵr, y Parch Charles Tooth (a fu’n gaplan a sefydlwr Eglwys Anglicanaidd Sant Marc yn Fflorens, Yr Eidal), ac fe adawyd y gwaith maen allanol heb ei ‘weithio’ yn fwriadol gan y dymunai’r pensaer iddo ‘ymddangos fel petai wedi codi o’r pridd, yn hytrach na chael ei blannu arno.’
Fodd bynnag, mae swyn yr eglwys fechan hon y tu mewn iddi. Mae’r waliau a’r to wedi’u rendro a’u peintio, mae waliau corff yr eglwys yn ‘goch cynnes a chyfoethog’, mae’r to yn las a ‘hufen cynnes, bron yn felyn’ yn y gangell. Dyluniwyd y seddau yn y gangell, a wnaed o goeden castan Sbaeneg, gan Wilson ac fe’u cerfiwyd gan Arthur Grove. Maent yn cynnwys delweddau sŵomorffig hudolus yn cynnwys ysgyfarnog, crwban, wiwerod, cwningod, tylluan, llygoden, glas y dorlan a dolffin. Ymysg y nodweddion amlwg eraill mae bedyddfaen blwm wedi’i haddurno’n goeth, yn seiliedig ar ddyluniad gan W R Lethaby ac allor gopr addurnedig.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Mynediad am Ddim
B4416 yn cysylltu yr A470 ac A494 yn Brithdir
Abermaw - 13 milltir
Tabor, Torrent Walk - 1 milltir
Yn ymyl llwybr NCN Dolgellau
Cerddwch i'r fynwent o'r gilfan - eglwys wedi ei amgylchynu gan goed
Tair stepen i mewn i'r eglwys - yn bosib i ddefnyddwyr cadair olwyn gyda chymorth. Llwybr graean o'r ffordd i fynedfa'r eglwys.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 763183 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124