Eglwys ganoloesol gyda nodweddion o sawl cyfnod
Cyflwynwyd yr eglwys hon i Sant Maelrhys, sant o’r Canol Oesoedd Cynnar oedd yn wreiddiol o Lydaw. Defnyddiwyd carreg lleol i adeiladu’r eglwys un ystafell hon. Mae’r eglwys o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Nid yw bob rhan o’r eglwys yn perthyn i’r un cyfnod. Credir bod corff yr eglwys yn dyddio’n ôl i’r oesoedd canol ond efallai fod y gafell (yr ardal ar gyfer y clerigwyr a’r côr) wedi’i adeiladu’n hwyrach ymlaen. Efallai fod y drws caeedig ar wal ogleddol corff yr eglwys yn dyddio’n ôl i’r oesoedd canol hefyd.
Ychwanegwyd llawer o elfennau at yr eglwys dros y canrifoedd, yn cynnwys sawl ffenestr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a mynedfa fodern. Efallai fod y bedyddfaen yn dyddio’n ôl i gyfnod mor fuan â’r bymthegfed ganrif a gwnaed y bwrdd cymun drws nesaf iddo yn ystod y ddeunawfed ganrif. Gwelir bod dau steil i’r eisteddleoedd: Meinciau plaen a bocsys pren.
Chwiliwch am y bloc mowntio ar hyd pen ddeheuol wal yr eglwys – oedd yn hwylus iawn ar gyfer cael yn ôl ar gefn y ceffyl ar ôl mynychu gwasanaethau’r Sul.
Mynediad am Ddim
Isffordd rhwng Rhiw ac Aberdaron uwchben Porth Ysgo
Pwllheli - 12 milltir
Safle bws agosaf ar y ffordd rhwng Rhiw a Aberdaron
Parcio cyfyngedig wrth fynedfa'r eglwys
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 210268 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123