‘Cadeirlan Llŷn’
Mae’r lleoliad arfordirol hardd hwn, sy’n edrych dros ddyfroedd Pen Llŷn a’r Sarnau wedi’i ddynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bu’n le addoli i Gristnogion ers y chweched ganrif pan deithiodd Sant Hywyn o Lydaw gyda Sant Cadfan a sefydlu’r mynachdy cyntaf yma – strwythur pren syml i gartrefu Hywyn a’i gell weddi. Deillia’r rhan hynaf o’r eglwys sydd wedi goroesi o’r ddeuddegfed ganrif pan ddisodlwyd yr adeilad cynharaf gydag adeilad a adeiladwyd â cherrig gan Gruffudd ap Cynan. Roedd y safle’n fan aros pwysig ar y bererindod i Ynys Enlli a dengys cofnodion bod ganddo gysylltiadau agos ag Abaty’r Santes Fair a sefydlwyd o gwmpas yr un amser gan Sant Cadfan.
Mae’r eglwys ei hun yn drysor bensaernïol ac fe’i gelwir yn lleol yn ‘Gadeirlan Llŷn’. Un o’r nodweddion arbennig yw’r drws Normanaidd bendigedig a’r arcêd, sy’n dyddio i oddeutu 1500 ac sy’n cynnwys pedwar bwa canolog o oes y Tuduriaid. Gwelir dau feddfaen diddorol wedi’u cerfio ar y mur gogledd ddwyreiniol a chredir eu bod, yn ôl yr arysgrifau arnynt, yn feddfeini dau offeiriaid cynnar, sef Veracius a Senacus. Ni chredir bod yr un o’r ddau a wnelo dim â’r eglwys. Fe’u darganfuwyd yn y ddeunawfed ganrif yn Mynydd Anelog ger fferm a elwir heddiw yn y Gors.
Bu’r bardd enwog R.S. Thomas(1923 – 2000) yn ficer yma o 1967 hyd at 1978. Ar ôl ei ymddeoliad bu’n byw yn yr ardal a fu’n gymaint o ysbrydoliaeth parhaus i’w waith.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Yn ystod yr Haf - dyddiol 10.00-3.00pm
Mynediad am Ddim
Ar ben yr B4413 in Aberdaron
Pwllheli - 15 milltir
Gorsaf bws Swyddfa'r Post - 100 llath
Ar lwybr beicio gorllewin Pen Llyn
Ar Lwybr yr Arfordir. Canol pentref Aberdaron
Mynediad cadair olwyn gyda ramp
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH173264 Map Landranger yr Arolwg Ordnans: 123