Safle’r gadeirlan gynharaf ym Mhrydain
Mae’r llecyn addoli Cristnogol hwn a gysegrwyd yn 546 yn mynnu’r teitl o sylfaen cadeirlan gynharaf Prydain. Mae ei darddiad yn mynd mor bell yn ôl a 525 pan sefydlodd uchelwr o’r enw Deiniol fynachlog ar dir a roddwyd iddo gan Faelgwn Hir, brenin Gwynedd yn hanner cyntaf y chweched ganrif. Amgaewyd y safle gan Deiniol â ffens a elwid yn Bangor, a dyna darddiad enw presennol y ddinas. Fodd bynnag profwyd nad oedd yr amddiffynfeydd yn ddigonol ac yn 634 daeth gwŷr milain o’r môr ac anrheithio’r safle ac unwaith eto yn 1073.
Nid oes dim o’r adeilad gwreiddiol ar ôl. Mae’r darnau hynaf sydd wedi goroesi yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif wedi gwaith adeiladu i drwsio’r difrod a achoswyd gan y Brenin John (bu i’w ddynion anrheithio’r ddinas a dal yr esgob yn wystl am swm o 200 o hebogau). Bu mwy o ddinistr yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ac eto yn ystod y Rhyfel Cartref pan fu i wŷr Cromwell ddefnyddio’r gadeirlan fel stabl.
Mae’r rhan fwyaf o’r adeilad presennol o ganlyniad i ailadeiladu sensitif rhwng 1870-80 gan Syr George Gilbert Scott. Defnyddiodd y pensaer enwog o oes Fictoria ddarnau o’r adeilad canoloesol i adfer bwâu a ffenestri’r transept. Mae’r gadeirlan yn enwog am Grist Mostyn, cerfiad derw yn hwyr o’r bymthegfed ganrif o Grist sydd bron o faint dynol, ar ei eistedd, mewn cyffion, yn aros am ei groeshoeliad. Yng ngerddi’r Gadeirlan mae Gardd Feiblaidd a honnir bod ynddi bob un planhigyn y sonnir amdano yn y Beibl.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am-4.30pm a Dydd Sadwrn 10.30am – 1.00pm
Mynediad am Ddim
Canol dref Bangor
Gorsaf Bangor - 100 llath
Gorsaf bws gerllaw
Ar lwybr NCN rhif 8
Stryd Fawr Bangor
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 579720 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115