Darganfyddwch yr enghraifft gynharaf o ysgrifennu Cymraeg y gwyddys amdano
Yn ôl Llyfr Llandaf (un o lawysgrifau eglwysig cynharaf Cymru), sefydlwyd mynachlog Geltaidd, neu clas, yma gan Cadfan, cenhadwr o Lydaw, oddeutu 516. Ni wyddys fawr am fywyd Cadfan ac nid oes unrhyw olion ar y safle cynnar hwn bellach. Credir bod rhan hynaf yr eglwys bresennol, sydd â chorff eglwys anferth gyda dwy ystlys, yn dyddio yn ôl i’r 12fed ganrif.
Mae’r eglwys yn nodedig am y cofebion diddorol a gedwir yma, yn cynnwys arddelw o offeiriad a ffigwr milwrol anhysbys. Cyfeirir at y ffigwr milwrol fel ‘Y Marchog sy’n Wylo’ gan bod nam yn y garreg ger ei lygaid dde sy’n mynd yn llaith yn ystod tywydd gwlyb. Dywedir mai cynrychioliad o Gruffudd ab Adda, bardd o’r 14eg ganrif yw hwn, ond mae peth amheuaeth am y dehongliad hwn erbyn heddiw.
Yr enwocaf yw Maen Tywyn, a elwir hefyd yn Faen Cadfan. Yn eitem sy’n llawn dirgelwch, mae pedwar wyneb y garreg wedi’u harysgrifio â’r hyn a gredir yw’r enghraifft gynharaf o ysgrifen Gymraeg. Mae cryn drafod wedi bod ynghylch dyddiad creu’r arysgrifau: awgryma ymchwil diweddar eu bod yn dyddio yn ôl i’r 9fed ganrif; ond mae dyddiadau cynharach wedi’i hawgrymu. Mae wedi bod yn anodd dehongli’r arysgrifion gan fod wyneb y garreg wedi gwisgo ac yn sgil ffurf hynafol y Gymraeg a ddefnyddiwyd. Credir bod un wyneb yn nodi ‘Mae corff Cingen yn gorwedd islaw’, ond mae cynigion eraill wedi’u hawgrymu hefyd. Naill ffordd, mae’r graig yn hynod arwyddocaol yn hanes yr iaith Gymraeg.
Ar agor yn ddyddiol
Mynediad am Ddim
Eglwys yng nghanol Tywyn ar yr A493
Tywyn - 4 milltir
Gorsaf bws tu allan
Ger Llwybr NCN 8
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 588009 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124