Meddyg yr Oesoedd Tywyll yng Ngwynedd
Saif y piler carreg hwn, a adwaenir hefyd fel Maen Melus, ym mynwent Eglwys Sant Cian, Llangian ger Abersoch ym Mhenrhyn Llŷn. Mae’r fynwent yn anarferol gan ei bod yn siâp cylch – sy’n arwydd bod y safle yn sanctaidd ymhell cyn dyfodiad Cristnogaeth. Yn y 1990au, dangosodd gwaith dyddio radiocarbon a wnaed ar waddodion a ganfuwyd ar y safle bod rhyw fath o strwythur wedi bodoli yma mor gynnar â 550 OC, ond nid yw’n cadarnhau mai adeilad crefyddol oedd y strwythur dan sylw.
Mae arysgrif Lladin ar y garreg yn darllen ‘MELI MEDICI FILI MARTINI IACIT’ sy’n cyfieithu fel ‘Mae Melus y Meddyg, mab Martin, yn gorwedd yma’. Mae’r cyfeiriad hwn at broffesiwn seciwlar yn unigryw ym Mhrydain. Dim ond llond llaw o gyfeiriadau o’r fath sydd i’w cael o’r cyfnod hwn, ac mae pob un ohonynt, heblaw am hwn, i’w canfod ar dir mawr Ewrop. Mae’r arysgrif yn arwyddocaol o ran darparu tystiolaeth o broffesiwn o’r fath yng Ngwynedd yn y cyfnod yn dilyn ciliad y Rhufeiniaid.
Mynediad am Ddim
Mae Llangian ar isffordd i ogledd orllewin Abersoch (A499)
Pwllheli - 8 milltir
Gorsaf bws Capel Smyrna
Yn agos i lwybr beicio Abersoch
Canol y pentref
Mae'r Maen Melus i'w gweld ar y dde wrth i chi gyrraedd mynedfa'r eglwys
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 295289 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans : 123