Y dŵr iachusol oedd yn profi grym cariad
Mae Ffynnon Gybi yn lleoliad ffynnon naturiol guddiedig brydferth sy’n hen adnabyddus am rinweddau iachusol ei dyfroedd. Wedi’i lleoli ym mhentref Llangybi ger Pwllheli, roedd dyfroedd iasoer clir y ffynnon yn denu pererinion o filltiroedd i ffwrdd, pob un ohonynt yn gobeithio am iachâd i beth bynnag oedd yn eu gwneud yn sâl.
Dywedir bod Sant Cybi yn wreiddiol o Gernyw a daeth ef i Gymru yng nghanol y chweched ganrif. Credai pobl fod y dŵr yn gwella pob math o afiechydon gan gynnwys defaid, cloffni, dallineb, manwyn (math o'r diciâu), y sgyrfi a chryd cymalau Yn y ddeunawfed ganrif, perswadiwyd tir feddiannwr lleol, William Price, i adeiladu bwthyn i roi llety i geidwad y ffynnon ac i’r rhai a ddeuai yno i geisio iachâd. Roedd yr iachâd yn golygu yfed ddwywaith y dydd o’r ffynnon a throchi yn y pwll oer cyn mynd i’r gwely i gysgu. Byddai taflu darn arian i’r ffynnon yn sicrhau y gwrandewid ar ymbiliau’r claf.
Honna traddodiad lleol y defnyddid y ffynnon hefyd gan ferched lleol i ddarogan pwy fyddai eu cariad. Byddai hances yn cael ei thaenu ar wyneb y dŵr a phetai’r hances yn symud tua’r de yna byddai’r cariad yn onest a thriw. Ond gwae nhw'r rhai anffodus pe byddai eu hancesi yn symud tua’r gogledd!
Mynediad am Ddim
Isffordd yn Llangybi rhwng A499 a A487
Gorsaf agosaf yw Criccieth - 7 milltir
Bysiau anaml o Troed y Garn Llangybi. Yn amlach o'r A497
Nifer o lwybrau troed - yr agosaf o'r fynwent yn Llangybi
Croesewir cŵn ar denynnau. Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Argymhellir eisgidiau cerdded.
Rhif Cyfeirndo Grid Llawn: SH427412 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123