Crwydrwch mewn safle Cristnogol hynafol, sydd wedi’i gladdu ynghanol twyni tywod
Mae’r eglwys fechan dlws hon ynghanol twyni tywod Ardudwy, ger Harlech, wedi’i chysegru i Sant Tanwg, a chafodd y pentref ei enwi ar ei ôl hefyd. Dyma un o’r safleoedd Cristnogol hynaf ym Mhrydain, ac efallai mai hwn yw’r hynaf sydd ag iddo hanes Cristnogol parhaus.
Mae gwreiddiau’r adeilad rhestredig Gradd II presennol yn dyddio yn ôl i’r canol oesoedd, gyda’r rhannau cynharaf ohono yn dyddio yn ôl i’r 13eg ganrif. Llwyddodd yr eglwys i osgoi y gwaith atgyweirio a wnaed i eglwysi yn Oes Fictoria ac mae’n enwog am y gyfres o feini arysgrifenedig a gedwir yma. Maent yn cynnwys Maen Ingenvus (credir ei fod yn dyddio yn ôl i’r 5ed ganrif); sy’n mesur 8 troedfedd (2.4 metr) o hyd ac mae’r enw ‘INGENUUS’ wedi’i arysgrifio arno. Mae’r math hon o garreg yn awgrymu ei bod wedi tarddu o Swydd Wicklow, Iwerddon. Mae carreg fedd arall, darn o garreg fedd llawer mwy a gredir ei bod yn dyddio yn ôl i’r 6ed ganrif, wedi’i harysgrifio â ‘EQUESTRIS NOMINE’, sef ‘O’r enw Equester’. Mae yno drydydd carreg wedi’i harysgrifio â ‘GERONTI HIC IACET FILI SPECTATI’, ‘Mae Gerontius, mab Spectatus, yn gorwedd yma’. Ni ellir priodoli unrhyw un o’r enwau i unrhyw ffigwr hanesyddol y gwyddys amdano.
Mynediad am Ddim
Isffordd at y môr yn gadael yr A496 i'r de o Harlech
Gorsaf Llandanwg - 100 llath
Yn y Gorsaf Drên
Yn ymyl llwybr NCN 8
Dim mynediad cadair olwyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 568282 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124