Rhamant Arthur uwchlaw afon Ddyfrdwy
Saif Caer Gai, lleoliad caer Rufeinig hynafol, ar lannau’r afon Dyfrdwy, ger y Bala. Yn debyg i nifer o gaerau’r ardal o’r un oed, awgryma gwaith cloddio mai dim ond am gyfnod byr y buont yn byw ynddi, oddeutu OC 75-130. Roedd hyn oddeutu’r un amser ag ymosodiad y Rhufeinwyr ar dylwyth yr Ordofigiaid, y bu iddynt eu trechu yn ystod ail hanner y ganrif gyntaf OC.
Awgryma arolygon geoffisegol fod y gaer ar un adeg yn cynnwys rhagfuriau tri metr o uchel, wedi’u trefnu ar ffurf hirsgwar. Roeddynt yn amgáu tŷ baddon (balnearius), gwesty, a chomplecs gweinyddol (mansio a principia). Saif anheddiad sifil, neu vicus, i’r de-ddwyrain. Ceir wedi’i arysgrifio ar flocyn tywodfaen a adferwyd o’r safle yn 1885, ‘Julius mab Gavero, gofaint a milwr Carfan Gyntaf y Nervians’, sy’n cyfeirio at Ddyffryn Nervia yng ngogledd yr Eidal.
Mae’n bosib fod gan y safle hwn gysylltiad â’r Chwedl Arthuraidd a chymeriad Syr Cai. Cred rhai fod yr enw yn deillio o’r Lladin, Caius neu Gaius, a’i fod yn cyfeirio at bennaeth Brythonaidd-Rufeinig a oedd yn byw yn y safle wedi i’r Rhufeiniaid adael Prydain (OC 410). Mewn un fersiwn o’r chwedl, Cai yw brawd maeth Arthur; mae’n adnabyddus am yfed cymaint â phedwar dyn ac am ladd gwrachod ac anghenfilod.
Mae'r safle oddi ar yr A494, ½ milltir i ogledd Llanuwchllyn
Porthmadog - 36 milltir
Gorsaf bws agosaf yw Ysgol Llanuwchllyn - ½ milltir
Llwybr beic Llyn Tegid yn ymyl
Mae fferm Caer Gai o fewn y caer
Ar dir preifat. Angen caniatad gan Fferm Caer Gai
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 877315 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 125