‘Tomen sbwriel gyntaf Eryri’
Mae Bryn y Gefeiliau yn gaer Rufeinig yn Nyffryn Llugwy. Fe’i hadwaenir hefyd fel Caer Llugwy ac fe’i sefydlwyd yn oddeutu OC 90 i fod yn gartref i fintai o filwyr cynorthwyol, oddeutu 500 o ddynion i gyd. Awgryma arolygon geoffisegol diweddar yr adeiladwyd ail gaer ar y safle yn oddeutu OC 120, caer garreg oedd hon a godwyd ar yr amddiffynfeydd i’r dwyrain. Mae’n annhebygol iawn fod neb wedi byw yn y safle ar ôl OC 140 ac ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth o vicus, neu anheddiad sifil yno. Mae rhai wedi awgrymu, yn unol â’r enw, mai swyddogaeth Bryn y Gefeiliau oedd rheoli’r gwaith cloddio plwm yn yr ardal.
Bu i waith cloddio yn ystod ugeiniau’r ugeinfed ganrif ddarganfod llawer iawn o ddarnau o grochenwaith a oedd yn perthyn i rhwng OC 90 a 120. Ar adeg y darganfyddiad, bu i un sylwedydd ddisgrifio’r safle fel ‘tomen sbwriel gyntaf Eryri’! Mae’r darnau gorau a ddarganfuwyd i’w gweld bellach yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor.
Gall ymwelwyr â’r safle weld amryw o gloddiau yn ogystal ag olion adeilad mawr. Hyd heddiw, mae uchder waliau’r adfail yn oddeutu 3 troedfedd (1 metr) a chredir mai mansio ydoedd, neu westy. Hefyd, darganfuwyd olion twymfeydd gan yr archeolegwyr y credir iddynt fod wedi bod yn rhan o system gynhesu gwres o dan y lloriau.
O Betws y Coed dilynnwch yr A5 i gyfeiriad Capel Curig. Wrth y pont yn ymyl Ty Hyll cymerwch y lôn gul i'r chwith am ½ milltir. Mae'r safle mewn cae ar y dde wrth y tro yn yr afon.
Gorsaf agosaf yw Betws y Coed - 5 milltir
Gorsaf bws agosaf yn ymyl Ty Hyll, Capel Curig.
Mae safle'r caer ar ochr arall i'r afon o'r A5. Yn ymyl Ty Hyll cerddwch tuag at Betws y Coed dros y pont a cymerwch y tro cyntaf i'r dde. Site of fort is on opposite side of river from A5. Ffordd wledig fechan a mae'r safle ymhen ½ milltir.
Gellir gweld y safle o'r ffordd. Dim mynediad, tir preifat. Dim man parcio penodol.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 746572 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: OS 115