Gwersylla - fel y Rhufeiniaid
Mae gwersyll gorymdaith Rufeinig ym Mhen y Gwryd wedi’i leoli 6 milltir i’r de-ddwyrain o Lanberis. Mae’n enghraifft nodweddiadol o’r math o wersyll a adeiladwyd ar ddiwedd diwrnod o orymdeithio gan y Fyddin Ymerodrol Rufeinig. Mae gwersyll o’r fath yn dyddio o rhwng OC 48 a 77, a byddant yn cael eu defnyddio dro ar ôl tro wrth ymgyrchu mewn ardal arbennig.
Mae’n anarferol iawn i ganfod olion o wersylloedd dros-dro. Mae’r ffaith fod olion dal i’w gweld ym Mhen y Gwryd yn awgrymu i’r gwersyll gael ei ddefnyddio ar sawl achlysur, wrth i’r Rhufeiniaid geisio tawelu’r gwrthsafiad yn y rhan yma o’u hymerodraeth. Mae lleoliad y safle, sy’n agos at y gyffordd rhwng tri phrif lwybr trwy fynyddoedd Eryri hefyd yn ategu’r gred iddynt gael eu defnyddio’n aml.
Mae maint y safle ym Mhen y Gwryd yn awgrymu y byddai oddeutu 2000 o ddynion wedi aros yno. Byddai’r milwyr yn arfer cario ceibiau a physt pren. Bob nos, byddai unedau’r fyddin yn gosod eu gwersyll o fewn ardal wedi’i dewis yn arbennig. Wedyn, byddant yn cau’r tir drwy adeiladu clawdd a ffos gan ddefnyddio mawn a physt. O bryd i’w gilydd, defnyddiwyd yr un sgiliau ar faes y gad i greu llinellau amddiffynnol.
Mae modd gweld nifer o nodweddion o’r crib dwyreiniol - sef corneli de-ddwyreiniol a gogledd-orllewinol y gwersyll ynghyd â’r fynedfa ddeheuol. Ochr ddeheuol y safle 4-hectar sydd wedi goroesi orau. Ar ochr orllewinol y ffordd (A498) mae wal fodern wedi’i hadeiladu ar ben clawdd Rhufeinig gwreiddiol.
Mynediad am Ddim
Cyffordd rhwng A498 a A4086
Gorsaf agosaf yw Betws y Coed - 9.7 milltir
Safle bws Pen y Gwryd
Rhai banciau pridd i'w gweld. Cyffordd rhwng A498 a A4086 o fewn y caer.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 660557 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: OS 115