Caeau Canoloesol a chytiau hir
Mae dyffryn serth Ceunant Egryn yn llechu o dan fryngaer Oes Haearn Pen y Dinas ac yn gartref i un o dirluniau mwyaf trawiadol, hynafol a gadwyd ym Mhrydain. Heblaw am y fryngaer ei hun, mae’r tir oddi amgylch yn gartref i anheddau cynhanesyddol, chwarel gerrig a ddefnyddiwyd wrth adeiladu Castell Harlech ac anheddau amaethu canoloesol gyda’u cytiau hir nodweddiadol.
Credir fod yr anheddau cynhanesyddol yn ffermydd Oes yr Haearn a adeiladwyd tua’r un amser a’r fryngaer. Maent wedi eu gosod allan mewn cylchoedd consentrig o argloddiau a ffosydd o amgylch lloc caeedig canolog o gytiau. Mae llawer o system hynafol y caeau yn aneglur oherwydd yr anheddau canoloesol diweddarach pan orfododd twf y boblogaeth i bobl feddiannu beth oedd ar y pryd yn dir ymylol. Mae’r hyn a adawyd yn bennaf yn system ganoloesol o gaeau anrheolaidd heb eu tarfu, gyda waliau cerrig fel terfynau yn ogystal â nifer o lociau sy’n cynnwys dau neu dri o gytiau hir.
Rhannwyd llawer o’r cytiau hyn yn ddwy neu dair ystafell ar wahân, ond nid oes gosodiad safonol. Mae rhai waliau yn parhau, ond mae mwyafrif y cerrig oedd yma wedi eu cymryd i’w defnyddio mewn man arall. Credir y gallai’r ffermydd canoloesol fod wedi eu tadogi i Abaty Egryn oedd gerllaw.
Mae'r safle ger Abaty Egryn (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) rhwng Tal-y-Bont a Llanaber, ac ar y ffordd A496 Harlech i Abermaw. Parcio ar y ffordd ger Capel Egryn.
Gorsaf agosaf - Harlech 7 1/2 milltir Tal-y-Bont - 1 milltir
Gorsaf bws Tal-y-Bont, Capel Egryn
Llwybr beicio ar y lôn - Llwybr 8 Lôn Las Cymru A496
Dilynwch y trac o Abaty Egryn i fyny'r bryn. Yr un llwbyr ar gyfer Siambr Gladdu Carneddau Hengwm. Mae'r tirwedd yn bennaf ar y chwith hanner ffordd i fyny'r bryn rhwng 120 a 240m uwchben lefel y môr a phob ochr i'r trac wrth i'r llethr lefelu allan.
Taith gerdded dda (oddeutu 45 munud) i fyny'r bryn ar hyd llwybr mynyddog. Argymhellir esgidiau cerdded a dillad addas. Rhaid cadw cwn ar dennyn. Cludiant cyhoeddus ar gael at gychwyn y daith gerdded i Egryn. Map yn angenrheidiol.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 605204 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124