Golygfeydd godidog ac anheddau hynafol
Lleolir bryngaer Craig y Ddinas sy’n dyddio o Oes yr Haearn, ar graig ynysig, unig, 350 metr uwchben lefel y môr gyda golygfeydd dramatig o fynyddoedd ac arfordir Môr Iwerddon rhwng Harlech ac Abermaw. Cadwodd y gaer hirgrwn hon lawer o’i nodweddion gwreiddiol yn cynnwys rhannau sylweddol o’r rhagfuriau cerrig gyda darnau sy’n sefyll ar uchder tebyg i’r gwreiddiol. Mae llwybr hynafol yn torri drwy’r fynedfa goeth ar ochr ddwyreiniol yr amddiffynfeydd sy’n arwain i lwyfandir bychan gyda gweddillion tai crwn. Nid ydym yn gwybod os oedd Craig y Ddinas yn anheddiad sefydlog neu yn noddfa ar adegau helbulus.
Mae taith Craig y Ddinas oddeutu 4 milltir (6km) gan ddechrau a gorffen yn y maes parcio ger Neuadd Cors y Gedol. Mae’n daith gymedrol gyda thraciau da. Arweinia’r llwybr o’r maes parcio i fyny i systemau o gaeau hynafol Cors y Gedol o amryfal gyfnodau gyda nodweddion terfynau caeau Neolithig a Brythonig-Rufeinig ac anheddau cytiau yn ogystal â beddrod cromlech borth Cors y Gedol. O’r fan yma mae’r trac yn raddol yn dringo llethrau Moelfre cyn dod allan yng Nghraig y Ddinas i fwynhau golygfeydd panoramig gwych o’r tirlun oddi amgylch. Mae’r golygfeydd eu hunain yn cyfiawnhau’r ymdrech i gyrraedd yno!
Mae Cors y Gedol wedi ei leoli oddi ar yr A496 Harlech i Abermaw. Tro cyntaf i'r chwith ar ôl Dyffryn Ardudwy. Gyrrwch i fyny ffordd syth iawn (Ffordd Gors) i Cors y Gedol - 1 milltir.
Prif Orsaf agosaf yw Harlech - 5 1/2 milltir.
Gorsaf bws agosaf gyferbyn â Ffordd Gors
Llwybr beicio A496 ar hyd y ffordd
O faes parcio Cors y Gedol troi i'r dde am Ffordd Ffridd Isaf trwy'r giat. Heneb ar y chwith o'r ffordd ar ochr y bryn
Parcio yn Cors y Gedol – cost bychan. Argymellir esgidiau cerdded. Rhaid cadw cwn ar dennyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 604230 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124