Llety’r Filiast
Mae Llety’r Filiast yn enw a ddefnyddir, gydag amrywiadau iddo, ar gyfer nifer o wahanol feddrodau yng Nghymru. Yn ddiddorol iawn, nid oes unrhyw stori wedi goroesi sy’n egluro pam y rhoddwyd yr enw hwn ar y safleoedd hynny.
Mae Llety’r Filiast ar Ben y Gogarth yn perthyn i ddosbarth penodol o feddrodau sy’n cael eu galw’n gromlenni porth a chredir ei fod yn perthyn i’r cyfnod Neolithig, oddeutu 3000 CC. Mae’n cynnwys siambr betryalog wedi’i hadeiladu o slabiau carreg mawr, ac wedi’i gosod mewn carnedd sydd wedi’i hymgorffori ar derfyn brigiad naturiol. Mae gwellt wedi tyfu dros y brigiad hwn bellach, felly mae’n ymddangos fel un twmpath hir.
Mae’r siambr wedi cael ei difrodi’n arw dros y blynyddoedd ac mae rhannau ohoni wedi cwympo. Ymddengys mai siâp petryalog oedd i’r beddrod gwreiddiol, 2 metr (6 troedfedd) wrth 1.6 metr (5 troedfedd) wrth 1.25 metr (4 troedfedd) o uchder. Saif ar derfyn dwyreiniol twmpath hirgrwn sy’n ymgorffori brigiad naturiol ac olion y garnedd a oedd yn orchudd i’r siambr ar un amser.
Mynediad am Ddim
Ffordd Cromlech
Llandudno - 1 milltir
Palladium ar Heol Gloddaeth
Dilynwch y lôn a llwybrau troed am Ben y Gogarth. Taith i fyny'r allt am 20 munud o Orsaf y Dramffordd
Wrth gyrraedd Gorsaf Hanner Ffordd ewch am Ffordd Cromlech, mae'r siambr gladdu yn y caeau. Mynediad hawdd ac i'w weld o'r ffordd
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 772829 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115