Tirwedd chwedlonol sy’n dywyll ac astrus
Gorwedda’r anheddiad mawr a gwasgaredig hwn o gytiau crwn bychan i’r gogledd o ddyffryn afon Dulyn, yn uchel uwchlaw Dyffryn Conwy. Hyd y gwyddwn, dyma un o’r aneddiadau cytiau crwn uchaf yng ngogledd-orllewin Cymru, a dyma o bosib un o’r aneddiadau cytiau crwn hynaf ym Mhrydain. Mae’r anheddiad wedi’i wasgaru dros ardal tua 600m ar hyd y dyffryn llethrog ac yn agos i afon ac mae’n cynnwys oddeutu 28 o lwyfannau cytiau crwn bychan a phum carnedd fechan. Mae llwyfannau’r tai hyn wedi’u terasu ar y llethr ac mae’r carneddi o faint tebyg i’r tai.
Nid yw maint na ffurf y tai hyn yn debyg i’r cytiau crwn cyfarwydd o Oes yr Haearn sydd fel arfer ar uchder is, yn fwy ac wedi’u hadeiladu’n fwy sylweddol. Yr enghraifft debycaf i’r tai hyn a’r carneddi bychan yw’r ychydig rai a gloddiwyd yng Nghraig Fechan yn ucheldir sir Ddinbych.
Ar ochr ddwyreiniol yr anheddiad ceir hefyd olion nifer o gytiau petryalog bychan. Credir bod y rhain yn adeiladau canoloesol, neu o gyfnod yn gynnar wedi’r canoloesoedd, ac yn gytiau defaid neu wartheg i’r bugeiliaid yn ystod tymor pori’r haf.
Dywed bod naws dywyll ac astrus yn crogi uwchlaw’r dirwedd ac mae gan y lle hen gysylltiadau â chwedlau ysbrydion aflonydd a maleisus. Mae Llyn Dulyn gerllaw, a dywed mewn chwedlau fod hwn yn llyn diwaelod, yn gartref i bysgod afluniaidd a bod adar yn cadw draw oddi wrtho.
Dilynwch y B5106 i dde Conwy. Troi i'r dde yn Tal y Bont am Llanbedr y Cennin. Dilynwch y ffordd i fyny'r allt am oddeutu 1/2 milltir ac yna cymryd tro sydyn i'r chwith
Conwy - 6 milltir
Gorsaf bws agosaf yw Tal y Bont - 2 filltir
Llwybr beicio Conwy i Betws y Coed gerllaw
Dilynwch lwybr o faes parcio Penygaer i gyfeiriad Llyn Dulyn
Parcio ger Bryngaer Pen y Gaer: SH 750693. Gall llwybr troed fod yn wlyb a corsiog mewn llefydd. Argymellir esgidiau cerdded. Mapiau yn angenrheidiol. Rhaid cadw cwn ar dennyn. Caniatau 2-3 awr ar gyfer y daith gerdded.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 708667 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115