Ffermio yn Oes yr Haearn
Mae Muriau’r Gwyddelod yn dirwedd ffermio uwchlaw Harlech sydd wedi cadw’n eithriadol o dda ers Oes yr Haearn, gydag olion cytiau crwn, clostir â muriau cerrig a ffiniau caeau hynafol. Mae’r safle yn cynnwys dwy iard, wedi’u hadeiladu’n agos i’w gilydd ac wedi’u hamgylchynu gan glostir carreg is-gylchog, ac o’i amgylch ceir system o gaeau Celtaidd.
Yn yr iard sydd i’r gogledd-ddwyrain ceir olion tri tŷ crwn wedi’u hadeiladu o garreg, tra ymddengys mai dim ond un o’r rhain oedd yn iard y de-orllewin. Rhywfaint ymhellach draw ceir iard fawr arall, gyda muriau carreg ac mae’n bosib fod hon hefyd wedi cynnwys anheddiad arall. Mae hen fapiau o’r ardal yn awgrymu y rhoddwyd yr enw Muriau’r Gwyddelod i’r safle hwn yn wreiddiol, yn hytrach nag i’r aneddiadau yn y ddwy iard.
Mae’r safle’n agos i ben ochr ogledd-ddwyreiniol llwybr hynafol a elwir yn ‘Y Ffordd Wyddelig’ yn lleol, a chredir ei bod hi’n debygol mai llwybr yn arwain at Muriau’r Gwyddelod oedd hwn. Mae’r safle yn oddeutu 700 metr o hyd, ond mae ffotograffau o’r awyr wedi dangos fod y system gaeau hynafol yn ymestyn yn llawer pellach. Mae ffiniau’r caeau i’w gweld ar y cyfan fel llinellau o gerrig wedi cwympo, ond credir bod rhai caeau cyfoes yn yr ardal, nifer ohonynt â waliau afreolaidd, yn cadw’r hen batrwm caeau hynafol. Mae’r caeau Celtaidd hyn yn enwog am eu siâp petryalog, tra bod caeau canoloesol mwy diweddar yn tueddu i fod yn ddarnau hir a thenau o dir. Mae safleoedd tebyg eraill gerllaw yn tystio i’r ffaith fod yr holl ardal wedi cael ei datblygu er dibenion ffermio yn ystod yr oes a fu.
Mae'r clostiroedd a'r cytiau crwn oddi ar ffordd fechan o Harlech i Llanfair
Harlech - 1/2 milltir
Gorsaf bws Harlech
1/2 milltir i'r de o'r castell. Llwybrau troed gerllaw
Map yn angenrheidiol
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 582303 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124