Amddiffynfeydd soffistigedig Oes yr Haearn a gwrthwynebu teyrnasiad y Rhufeiniaid
Mae gan y fryngaer ym Mhen y Gaer ambell strategaeth amddiffyn ddiddorol a chredir ei bod yn dyddio i ddiwedd yr Oes Efydd neu ddechrau Oes yr Haearn. Adeiladwyd rhagfur unigol ar ran fwyaf serth y bryn, ond adeiladwyd tri rhagfur ar y llethrau mwynach. Roedd y rhagfur mewnol yn cynnwys wal gerrig sych wedi’i llenwi â rwbel, tra’r oedd yr amddiffynfeydd allanol yn gloddiau o bridd a rwbel. Pan gynhaliwyd gwaith cloddio ar ddechrau’r 20fed ganrif, canfuwyd bod yr ardal y tu hwnt i’r rhagfuriau hyn yn safle a elwir yn ‘chevaux de frise’ – ehangder mawr o gerrig a chlogfeini anwastad a ddyluniwyd i rwystro ymdrechion unrhyw ymosodwyr posib. Mae’r math hwn o strwythur amddiffynnol yn brin iawn ym Mhrydain.
Roedd olion oddeutu dwsin o dai crynion o fewn y tir caeedig. Awgryma’r diffyg gwaith cerrig ar y safleoedd hyn eu bod wedi’u hadeiladu gyda choed. Ychydig iawn o arteffactau a gafodd eu hadfer, ond datgelwyd tystiolaeth o waith haearn ymysg y rhai a ddarganfuwyd. Daethpwyd o hyd i gerrig rhwbio, sidell garreg a cherrig sling hefyd. Ni cheir unrhyw dystiolaeth bod rhywun wedi byw yno ar ôl concwest y Rhufeiniaid, a thybir bod y fryngaer o bosib wedi dioddef o achos ymosodiad y llengoedd Rhufeinig wrth iddynt wthio’u ffordd trwy’r rhan hon o Wynedd. Yn y diwedd, sefydlwyd gwarchodlu mawr yng Nghaerhun, ychydig islaw yn Nyffryn Conwy, sy’n awgrymu bod gwrthwynebu tanbaid ymysg llwythau lleol yr ardal yn gyffredin. Mae’n debyg y byddai bryngaer Pen y Gaer wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwrthwynebiad hwn.
Dilynwch y B5106 i dde Conwy. Troi i'r dde yn Tal y Bont am Llanbedr y Cennin. Dilynwch y ffordd i fyny'r allt am oddeutu 1/2 milltir, ac yna troi i'r chwith. Parcio cyfyngedig
Conwy - 6 milltir
Tal y Bont - 2 milltir
Llwybr beic Conwy i Fetws y Coed
Llwybr troed i'r bryngaer. Llwybr rhwydd / cymedrol 5 munud o'r maes parcio
Argymellir esgidiau cerdded. Map yn angenrheidiol. Rhaid cadw cwn ar dennyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 750693 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115