Cartref chwedlonol Buan?
Mae’r brigiad nodedig hwn o graig igneaidd a gyfyd yn serth o’r dirwedd amgylchynol yn dangos arwyddion fod pobl wedi trigo yma ar sawl achlysur gwahanol. Credir bod yr amddiffynfeydd gwreiddiol yn dyddio i ddiwedd Oes yr Haearn (oddeutu 100 CC), a chafodd ei gryfhau ymhellach yn y cyfnod ôl-Rufeinig. Ychydig iawn o’r strwythur gwreiddiol sydd ar ôl heddiw, ond yn y 1950au daeth gwaith cloddio helaeth o hyd i weddillion tua 160 o gytiau crwn. Amcangyfrifir bod y rhagfur gwreiddiol yn cynnwys wal gerrig sych wedi’i llenwi â rwbel hyd at 6 metr (20 troedfedd) o uchder. Credir bod caer fechan ar gopa’r bryn yn dyddio i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig neu’r cyfnod ôl-Rufeinig.
Nid yw caerau o’r fath yn anghyffredin ar yr adeg hon, ac awgrymwyd wedyn bod tirfeddiannwr lleol blaenllaw a chyfoethog wedi byw yng Ngarn Boduan. Mae’r enw ei hun yn awgrymu cysylltiad gyda Buan, y ffigwr lled-chwedlonol, ac ŵyr Llywarch Hen, y tywysog a’r bardd o’r 6ed ganrif.
Troi oddi ar y ffordd A497 Nefyn i Bwllheli am y B354 i gyfeiriad Y Ffor. Parcio wrth Comisiwn Coedwigaeth - y cyntaf ar y chwith
Pwllheli -4 milltir
Boduan - ½ milltir
Beicio ar y lôn
Cerddwch i fyny'r trac o'r tro Comisiwn Coedwigaeth. Cadwch i'r chwith i fyny'r bryn gan anelu am y gopa.
Taith gerdded 45 munud i fyny llwybr troed y Comisiwn Coedwigaeth. Argymellir esgidiau cerdded. Rhaid cadw cwn ar dennyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 310393 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123