Syniadau newydd mewn crefydd a phensaernïaeth
Mae’r ddwy heneb hyn, sy’n swatio yn y bryniau 2 ½ milltir i’r tir o Lanaber, yn ffurfio rhan o dirlun cynhanesyddol Gwynedd a chredir eu bod oddeutu 5000 oed. Y beddrod deheuol yw’r mwyaf o’r ddau, oddeutu 40 metr (150 troedfedd) o hyd gyda siambr gladdu fawr a chyflawn sy’n mesur hyd at 2.5 metr (9 troedfedd) o uchder. Credir bod y beddrod wedi cael ei addasu dro ar ôl tro, sy’n awgrymu ei fod wedi cael ei ddefnyddio dros gyfnod hir o amser. Nid yw’r beddrod llai a gogleddol wedi’i gadw cystal ac mae’n garnedd yn steil sy’n nodweddiadol o ranbarth Hafren-Cotswold, rhywbeth anghyffredin iawn yn y rhan hon o Gymru.
Ar un adeg, roedd gan y garnedd ddeheuol gromlech borth hynod nodedig, ond mae hon bellach wedi disgyn ar wahân i un unionsyth sy’n dal i sefyll. Yn y 1780au, mae Thomas Pennant yr hynafiaethydd yn datgan bod dwy benllech yn gorgyffwrdd gan y beddrod oedd yn cael eu cynnal gan dri slabyn unionsyth o graig; fe’i defnyddiwyd bryd hynny fel cwt bugail ag iddo le tân hyd yn oed. Er gwaethaf yr addasiadau, nodwyd yn ffyddiog ei fod wedi cael ei adeiladu’n wreiddiol fel siambr ystlysol yn steil ardal Hafren/Cotswold; cafodd y ffurf ei addasu wedyn i ymgorffori’r hen draddodiad o gromlechi porth sy’n fwy cyffredin i’r rhan hon o Wynedd. Mae gan archeolegwyr ddiddordeb mawr mewn datblygiadau o’r fath oherwydd eu bod yn peri iddynt feddwl am y syniadau crefyddol a phensaernïol newydd a gyflwynwyd i’r gymuned leol yn y rhan hon o Ardudwy.
Mae'r safle yn ymyl Abaty Egryn (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) rhwng Tal-y-Bont a Llanaber ac ar yr A496 Harlech i Abermaw
Harlech - 7 1/2 milltir Tal-y-Bont - 1 milltir
Gorsaf bws Capel Egryn, Tal-y-Bont
Llwybr ar y ffordd rhif 8 Lôn Las Cymru A496
Dilynwch lwybr o Abaty Egryn i fyny'r bryn. Pan mae'r llethr yn dod i ben dilynwch y rhaffordd. Mae'r heneb yn ymyl wal y caeau
Taith gerdded oddeutu 1 awr i fyny'r bryn ar lwybr mynydd gwlyb. Argymellir esgidiau cerdded a dillad addas. Map yn angenrheidiol. rhaid cadw cwn ar dennyn. Parcio ar y ffordd yn Capel Egryn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 613205 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124