Bryngaer o Oes yr Haearn sydd wedi goroesi’n rhyfeddol
Y fryngaer drawiadol hon o Oes yr Haearn yw un o’r safleoedd sydd wedi goroesi orau yn y wlad. O’i lleoliad, 480 metr uwchben lefel y môr ar gopa mwyaf dwyreiniol Yr Eifl, byddai wedi dominyddu yr ardal o amgylch Penrhyn Llŷn yn ei hoes. Mae gwaith cloddio a wnaed yn ystod yr 20fed ganrif wedi datgelu cyfoeth o wybodaeth am y safle hwn. Credir i’r fryngaer gael ei hadeiladu yn Oes yr Haearn, oddeutu 300 CC, ac yna parhawyd i ddefnyddio’r gadarnle hon hyd y 4edd ganrif OC a thu hwnt efallai. Mae’r eitemau sydd wedi’u canfod yn y fryngaer hon yn dyddio yn ôl yn bennaf i oes y Rhufeiniaid ac yn eu mysg mae crochenwaith, teclynnau haearn a throellennau cogeiliau.
Mae’r enw Tre’r Ceiri yn un hynod bwrpasol. Mae’r brif gaer wedi’i hamgylchynu gan ragfur maen sengl, ac mae dal yno yn ymestyn i oddeutu 3 metr (10 troedfedd) o uchder am fwyafrif y mur. Y tu mewn i’r rhagfur, daethpwyd o hyd i olion tua 150 o gabannau cerrig o bob maint, ac mae waliau rhai ohonynt yn dal yno heddiw yn ymestyn i uchder o 1 metr (3 troedfedd). Mae carnedd gladdu llawer hŷn sy’n dyddio yn ôl i’r Oes Efydd cynnar, 2000 – 1500 CC yn sefyll ar y copa ac mae’r bobl a fu’n gyfrifol am adeiladu Tre’r Ceiri wedi sicrhau nad oeddynt yn tarfu ar y safle hynafol a chysegredig hwn wrth adeiladu’r fryngaer. Mae’r gaer hon wedi’i chysylltu â Chaer Dathyl, prif lys Math fab Mathonwy (mae ei hanes yn llunio rhan o chwedlau’r Mabinogi).
Yn 1989, aeth Cyngor Dosbarth Dwyfor a Chyngor Sir Gwynedd, gyda chymorth ariannol gan Cadw, ati i wneud gwaith adfer a chadwraeth ar y gaer hon dan oruchwyliaeth Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, gan sicrhau y bydd yn goroesi am sawl blwyddyn i ddod.
Yn Llanaelhaearn cymerwch y B4419 i gyfeiriad Nefyn. Parcio ar y dde ymhen oddeutu 1 milltir
Bangor -21 milltir , Pwllheli - 9 milltir
Gorsaf bws Llanaelhaearn
Beicio ar y lôn ar hyd yr A499
Llwybr troed wedi ei arwyddo 20 llath i orllewin y maes parcio
Llwybr mynydd serth oddeutu 40 munud. Argymellir esgidiau cerdded. Rhaid cadw cwn ar dennyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 373446 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123