Oes yr Haearn
Gwnaed gwaith cloddio cynhwysfawr ar y fryngaer fechan hon rhwng 1979 a 1985. Datguddiodd y gwaith hwn dystiolaeth estynedig bod y safle wedi bod yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu haearn ar un adeg. Awgryma dyddio radiocarbon bod y safle wedi’i feddiannu o’r Oes yr Haearn hwyr hyd nes dyfodiad y Rhufeiniaid ac y cynhyrchwyd haearn ar raddfa ddiwydiannol yma. Amcangyfrifir bod angen tunnell o bren a 25 diwrnod gwaith i gynhyrchu dim ond 1kg o fwyn haearn cors, gan ddefnyddio deunydd crai o gors mawn Nant Garnallt gerllaw. Credwyd bod 100kg wedi’i gynhyrchu a’i drin yma yn ystod oes weithredol y safle.
Arferai sawl strwythur fod ar y safle y tu mewn i’r ganolfan amddiffynedig, yn cynnwys cytiau crwn gyda pharedau stanciau – waliau wedi’u gwneud o stanciau pren rhyngweol tenau, y cyntaf o’u math i’w canfod yng Ngwynedd. Roedd yr efail wreiddiol, sydd wedi’i hailadeiladu’n rhannol, yn siâp sbiral er mwyn awyru’r adeilad yn well. Gellir gweld strwythur tebyg ym mryngaer Garn Boduan ym Mhen Llŷn a chredir mai gefail yw’r adeilad hwnnw hefyd. Yn ogystal, canfuwyd yma ffwrnais fwyndoddi, eingion garreg, gefeiliaid, morthwylion carreg, ac amrywiaeth o gerrig hogi, gleiniau gwydr addurniedig a darnau chwarae du a gwyn. Gellir gweld rhain yng Nghanolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri yn Nhan y Bwlch – nhw fu’n gyfrifol am wneud y gwaith cloddio.
Wrth i’r Rhufeiniaid lacio’u gafael ar yr ardal yn hwyr yn yr 2il ganrif OC, dechreuodd y gwaith cynhyrchu eto – ond ar raddfa gyfyngedig yn y strwythur cylchol bychan y tu draw i’r rhagfur dwyreiniol. Ni chafodd y fryngaer ei hun ei hailfeddiannu fyth wedyn.
Dilynwch y B4391 Ffestiniog i Bala. Wrth y groessfordd gyntaf o Ffestiniog troi i'r chwith trwy'r giat. Parcio wrth y gwaith dwr SH 725425
Blaenau Ffestiniog - 4.5 milltir
Gorsaf bws agosaf yw Llanffestiniog, Peniel ar yr A470
Beicio ar y ffordd
Y safle i fyny llwybr gan gadw i'r dde. Taith gerdded 20-30 munud
Llwybr troed cymedrol. Rhaid cadw cwn ar dennyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 728429 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124