Dewch o hyd i hanes a mytholeg uwchben traethau o fri
Credir yr adeiladwyd y gadarnle hon oddeutu 2500 o flynyddoedd yn ôl ac fe saif ar frigiad o ddyddodion rhewlifol ac fe’i hamgylchynwyd yn wreiddiol gan forfa heli. Ar un adeg, roedd yn cynnwys clawdd dwbl a chors gyda rhagfuriau cerrig a fesurai hyd at 6 metr (20 troedfedd) o uchder. Mae’n debyg bod ffens bren gref ar ben y rhagfur mewnol yn wreiddiol, ac mae’n debyg bod strwythur pren yn amgylchynu’r fynedfa yn y de-orllewin. Mae erydiad arfordirol wedi dinistrio hanner y safle caeedig gwreiddiol. Gellir mwynhau golygfeydd godidog o Benrhyn Llŷn ac ochr orllewinol Môn o Ddinas Dinlle.
Ni chafodd y safle ei gloddio yn iawn erioed. Fodd bynnag, daethpwyd o hyd i arian gleision Rhufeinig sy’n dyddio yn ôl i 253-296 OC, ynghyd ag eitemau eraill megis crochenwaith llathredig sherdof black ac mae hyn yn awgrymu bod y safle wedi’i feddiannu yn y cyfnod Rhufeinig hwyr. Credir mai safle cytiau crwn o Oes yr Haearn yw’r pantiau bychan sydd yn y safle. Erbyn hyn, mae’r gaer ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac fe ellir ymweld â hi yn rhad ac am ddim ac mae panel dehongli ar y safle.
Mae Dinas Dinlle yn gysylltiedig â chwedl Math fab Mathonwy yn y Mabinogi gan mai dyma oedd cartref Lleu Llaw Gyffes yn blentyn a dyma sut yr enwyd y pentref yn ‘Dinas Din Lleu’. Mae Lleu yn ymgnawdoliad o Lugus, y Duwdod Celtaidd. Mae sawl man arall cyfagos i’w gweld yn y chwedlau, yn cynnwys Morfa Dinlle (y twyni tywod i’r gogledd), Maen Dylan (craig fawr ar y lan i’r de o’r fryngaer) a Chaer Arianrhod (creigres oddi ar y lan i’r de o’r fryngaer).
Mae Dinas Dinlle yn gyswllt gweledol pwysig i’r canoloesoedd a’r chwedlau.
Mynediad am Ddim
Oddi ar yr A499 dilynwch arwyddion am Llandwrog / Dinas Dinlle / Maes Awyr Caernarfon
Bangor - 15 milltir
Gorsaf bws Dinas Dinlle
Becio ar y ffordd
Safle yn ymyl y maes parcio'r traeth
Llwybr troed pren. Dringo cymedrol. Rhaid cadw cwn ar dennyn. Ddim yn addas i gadeiriau olwyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 437565 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115