Mwyngloddio a chynhyrchu bwyelli carreg oedd un o ddiwydiannau cyntaf Prydain y gwyddys amdano, a’r chwarel Neolithig yng Nghraiglwyd yw un o’r safleoedd mwyaf o’i fath. Canfuwyd bwyelli o Graiglwyd ledled y wlad ac mae sawl enghraifft ohonynt i’w gweld yn yr Amgueddfa Brydeinig ac yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Wrth wneud gwaith cloddio yma rhwng 1919 a 1921, daethpwyd o hyd i bum llawr gweithio wedi’u trefnu o amgylch tri brigiad o garreg galed, igneaidd. Byddai blociau o ddeunydd crai yn cael ei fwyngloddio a’i siapio’n fras cyn cael eu symud i safleoedd eraill i gael eu grwndio a’u sgleinio nes bod y bwyelli gorffenedig wedi’u creu. Heblaw am fod yn declynnau hanfodol yn eu hoes, roedd bwyelli o’r fath yn eitemau oedd yn cynrychioli statws person. Wrth edrych ar rai o’r enghreifftiau gorau sydd wedi goroesi, mae’n amlwg na chawsant erioed eu defnyddio i dorri coed ac mae’n debyg mae cael eu cadw fel arwydd o statws y byddai’r bwyelli.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
O Benmaenmawr dilynwch y ffordd i gyfeiriad Dwygyfylchi. Dilynwch arwyddbyst am Druid’s Circle / Graig Lwyd Road. Parcio yn ymyl Jubilee Walk giatiau pyst.
Penmaenmawr - 1 milltir
Gorsaf bws yn Gorsaf Drên Penmaenmawr
Nifer o lwybrau troed. Llwybr cymedrol 40 munud o faes parcio Jubilee Walk. Llwybr serth o fferm Graiglwyd yw'r un mwyaf uniongyrchol
Argymhellir esgidiau cerdded. Rhaid cadw cwn ar dennyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 717749 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115