Ewch i weld anheddiad dirgel a chladdfa o’r Oes Efydd
Yn gyffredin â llawer bryngaer arall yn y rhan hon o Gymru, dewiswyd y safle yng Nghefn Caer Euni yn benodol oherwydd ei safle amddiffynnol naturiol. Fe’i hadeiladwyd ar gefnen greigiog rhwng y Bala a Chorwen ac mae’r ochr de-ddwyreiniol ar lethr serth tra bod rhes ddwbl o gloddiau a ffosydd yn gwarchod yr ochr ogledd-orllewinol. Roedd y tir amgaeedig yn mesur oddeutu 2 hectar i gyd ac awgryma’r marciau cnydau fod cymaint â 25 o gytiau crwn ar y safle ar un adeg, efallai yn dyddio o’r Oes Haearn. Erbyn hyn mae dwy sidell o’r Oes Haearn a ddarganfuwyd yng Nghefn Caer Euni yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Lleolir tair carnedd ar y bryn hefyd. Tybir bod y rhain yn garneddau claddu crwn o’r Oes Efydd yn dyddio o’r trydydd mileniwm hwyr neu’r ail fileniwm cynnar CC.
O'r Bala cymerwch yr A494 i'r gogledd orllewin am Bethel. Dilynnwch ffordd gul i Cwm Main.
Y Waun - 23 milltir
Gorsaf bws agosaf ar dro Llandderfel i'r A494
Beicio ar y ffordd fawr
Taith oddeutu 1/2 milltir
Llwybr mynydd. Esgidiau cerdded a map eu hangen.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 993410 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 125