Darganfod gwreiddiau hynafol castell meibion Owain
Mae’r uchelfan hwn yng nghanol penrhyn Llŷn ag amddiffynfeydd arno sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Haearn. Mae cam cyntaf yr adeiladu’n dyddio’n ôl i oddeutu CC 300, pan amgaewyd oddeutu 12 acer o arwynebedd o fewn rhagfur carreg a phridd a ffos. Oddeutu 100 CC, estynnwyd yr ardal gaerog hyd at 26 acer. Adeiladwyd y rhan olaf yn llawer diweddarach o gwmpas y 12fed ganrif OC a chredir mai’r canlyniad oedd ‘castell meibion Owain’ y cyfeiriwyd ato gan Gerallt Gymro yn 1188. Adeiladwyd y gaer fel symbol o rym yn yr amser terfysglyd a ddilynodd marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170 a phan rannwyd y diriogaeth rhwng ei feibion.
Yn ôl y sôn, caiff y safle ei enw ar ôl Brenhines / Santes Madrun (neu Modrun) – wyres Gwrtheyrn, pennaeth y Brythoniaid a gafodd y bai am wahodd y Sacsoniaid i’r ynysoedd hyn. Petai hyn yn wir, mae’r gwaith adeiladu a ddigwyddodd yma tua 700 mlynedd cyn amser Gwrtheyrn. Ychydig sydd ar ôl heblaw am ragfur wedi’i hindreulio gyda mynedfeydd i’r gogledd a’r de. Mae’r ail ragfur yn dyddio o 100 CC ac mae hwn mewn cyflwr gwell.
Roedd nifer helaeth o dai crynion o’r amser cyn y Rhufeiniaid wedi’u lleoli o fewn y tir caeedig ac mae olion oddeutu 10 ohonynt wedi goroesi. Yn ogystal, mae tystiolaeth bod llawer o dai afreolaidd wedi’u hadeiladu yn ystod y cyfnod Rhufeinig diweddar, dyddiad sy’n cyd-fynd ag amser Gwrtheyrn. Yn 1839, darganfuwyd bwyell balstaf ddolennog yma sydd erbyn hyn yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.
O Bwllheli ewch tua'r gogledd ar yr A497. Trowch i'r chwith am y B4415. Ar ôl Rhyd y Clafdy dilynwch arwyddion am Carn Fadryn. Parcio ger y capel
Pwllheli - 8 milltir
Gorsaf bws Rhy y Clafdy
Beicio ar y lôn
Llwybr mynydd, 45 munud i fyny allt. Bydd angen esgidiau cerdded a map.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 280352 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123