O Marble Arch i Ddulyn trwy garedigrwydd Thomas Telford
Mae’r A5 yn dilyn un o’r llwybrau mwyaf hynafol ym Mhrydain. Rydym yn canfod y ffordd gyntaf mewn cofnodion Rhufeinig ble y cyfeirir ati fel ‘Iter II’ Ganrifoedd wedyn fe’i mabwysiadwyd gan yr Eingl-Sacsoniaid fel yr enwog Watling Street yn Lloegr.
Mae llwybr yr A5 presennol o ganlyniad i Ddeddf Uno 1800 a unodd Prydain Fawr ag Iwerddon. Roedd angen cysylltiadau gwell rhwng Llundain a Dulyn felly gofynnwyd i’r peiriannydd Thomas Telford adeiladu lôn bost (tyrpeg). Bwriad y ffordd oedd cysylltu Llundain â Chaergybi a’r llong bost i Ddulyn.
Mae’r rhan o’r ffordd sy’n mynd drwy Gymru yn 80 milltir o hyd rhwng Llangollen a Chaergybi, Ynys Môn. Cedwir rhai o nodweddion gwreiddiol Telford, gan gynnwys llawer o’r tollbyrth gwreiddiol sydd wedi goroesi a’r depos storio ynghyd â cherrig milltir nodedig sydd wedi’u cadw mor dda. Yn ogystal, mae’r rhan hon o’r ffordd yn cynnwys dwy bont hynod. Mae Pont Waterloo yn bont haearn bwrw dros yr Afon Conwy ym Metws-y-coed, tra bod Pont y Borth yn cysylltu Môn â’r tir mawr. Roedd yr olaf yn bont o ddyluniad arloesol oedd yn nodi cwblhau ffordd Telford pan y’i hagorwyd yn 1826.
A5 Cerrigdruidion - Bangor
Gorsafoedd yn Betws y Coed a Bangor
Mae hon yn ffordd brysur a dylid cymryd pob gofal wrth stopio i edrych ar gerrig milltir, tolldai a phontydd.
Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans 116 a 115