Ewch ar eich beic i weld melinau grymus Chwarel Penrhyn
Cychwynnwch ar eich taith o Borth Penrhyn, Bangor – yr harbwr a arferai gludo llechi Penrhyn o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg – i ddilyn y llwybr beicio hwn sy’n dilyn hen lwybr rheilffordd y chwarel. Cyn gadael cofiwch edrych ar y cytiau locomotif a chytiau cerbyd hanesyddol, swyddfa’r porthladd, y bont haearn bwrw sydd wedi’i datgysylltu ac yn olaf, y tŷ bach crwn.
Daeth llinell stêm o’r chwarel i’r porthladd yn weithredol yn y 1870au i gymryd lle’r llwybr blaenorol sef rheilffordd a dynnwyd gan geffylau. Caewyd y llwybr yn 1962. Sicrhewch eich bod yn llwyr werthfawrogi’r olygfa wych o Bont Marchogion, un o’r pontydd aml-fwa hynaf yn y byd i oroesi, ac a ddefnyddiwyd gan reilffordd 1801. Ymhellach draw ar hyd y llwybr, fe gyrhaeddwch Felin Fawr. Roedd disgyniad y dŵr yn y lleoliad hwn yn pweru olwynion a oedd yn gyrru’r llifiau mecanyddol i gynhyrchu slabiau llechi. Heddiw, mae’r adeiladau yn y Felin Fawr yn cynnwys hen ffowndri haearn a phres a dwy felin, a adeiladwyd yn 1866. Mae yna hefyd ddwy olwyn ddŵr a chwt locomotif sy’n perthyn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ar un adeg Chwarel Penrhyn oedd y chwarel fwyaf yn y byd, ac mae hi’n parhau i weithio hyd heddiw. Datblygodd tref Bethesda yn sgil y lôn bost o 1821 ymlaen i fod yn gartref i’r chwarelwyr a’u teuluoedd; mae’n enghraifft wych o dref ddiwydiannol Fictoraidd. Wrth i chi barhau ar hyd y llwybr beicio, byddwch yn dilyn tyrpeg Arglwydd Penrhyn i Lyn Ogwen, neu ‘ffordd y lord’ a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chewch fwynhau’r golygfeydd tuag at ffordd Thomas Telford ar ochr arall y dyffryn.
Yn 2011, cynhwyswyd Diwydiant Llechi Gogledd Cymru yn llwyddiannus ar Restr Fer y DU o safleoedd posib ar gyfer Statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO - yr unig safle yng Nghymru. Bydd yr enwebiad yn cymryd rhwng pedair a 10 mlynedd i’w gwblhau.
Taith y Lechen
Mae Taith y Llechen ar hyd llwybr Lôn Las Ogwen rhwng Nant Ffrancon a Phorth Penrhyn ym Mangor yn adrodd stori llechi dyffryn Ogwen o Chwarel Penrhyn, datblygiad y rheilffyrdd a’r bobl fu’n rhan o’r diwydiant llechi. Mae paneli dehongli a codau QR wedi eu gosod ar hyd y llwybr, a mae'r wybodaeth defnyddiol i'w gweld isod ar ffurf pdf.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Port Penrhyn ar A5 Bangor, Chwarel Penrhyn yr A5 Bethesda
Gorsaf agosaf yw Bangor
Gorsaf bws Bus Pen y Bryn ym Mangor neu gorsaf bws stryd fawr ar gyfer Bethesda
Lôn Las Ogwen
Lôn Las Ogwen
Mae chwarel Penrhyn yn un weithredol. Mae'r llwybrau cerdded yn yr ardal cyfagos a nid y chwarel ei hun.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Port Penrhyn: SH 593725 a Chwarel Penrhyn: SH 625659 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115