Rheilffordd epig ac etifeddiaeth o'r oes stêm
Y peiriannydd nodedig Robert Stephenson ddatblygodd y prif lwybr rheilffordd yma sy’n cynnwys dwy bont o haearn bwrw ar ffurf tiwb ac ar y pryd roeddynt yn chwyldroadol. Y bont gyntaf yw pont Conwy dros afon o'r un enw; yn rhyfeddod, mae’n parhau bron yn ei chyflwr gwreiddiol. Mae’r ail, sef Pont Britannia, sy’n pontio’r Fenai syfrdanol, wedi cael ei newid llawer mwy. Pe byddwch yn cychwyn neu’n diweddu eich siwrnai yng Nghaergybi, edrychwch am sied goch drawiadol o frics coch bwaog i gadw trên yn dyddio o 1870-80.
Cychwynnodd y gwaith ar y rheilffordd yng nghanol yr 1840au gyda’r adeiladau cynnar a welwch yng ngorsafoedd Bangor, Aber, Bodorgan a’r Fali wedi’u dylunio gan Francis Thompson. Roedd ef yn bensaer a arferai weithio gyda Robert Stephenson ar brosiectau rheilffyrdd. Roedd Thompson yn ffafrio steil dylunio cain yn hytrach nag un wastraffus; fe’i hedmygwyd gan lawer ac yn ddiweddarach fe ysbrydolwyd adeilad yr orsaf ym Mhenmaenmawr.
Roedd y llinell yn weithredol o 1848 a’r adeg yma roedd trên cyflym yr ‘Irish Mail’ yn enwog am fod y trên cyflymaf yn y byd ar y llwybr hwn; yn ogystal, honnwyd ei fod y trên hynaf yn y byd i gael ei enwi. Cludai’r trên bost a negeseuon y llywodraeth rhwng Llundain a Chaergybi ble llwythid hwy ar longau i groesi'r môr i Iwerddon. Er mwyn cyflawni’r gwasanaeth hynod o gyflym hwn, gosodwyd system arloesol o gafn dŵr ym Mochdre (pentref i’r gorllewin o Fae Colwyn) yn 1860, a alluogai’r trenau i godi dŵr i fyny heb iddynt orfod stopio. Ar garlam gwyllt!
Mae'r A55 yn dilyn rhan fwyaf o'r trac
Mae pob gorsaf dren gyda mynediad hwylus at orsaf fws
Llwybrau NCN 5 a 8
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn- Caergybi: SH 247821, Gorsaf Caer: SJ 413669 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 114, 115, 116, 117