Tirlun hynafol a dirgel
Cafodd Coedwig Gwydir ei ymelwa oherwydd y plwm oedd ar gael yno ers cannoedd o flynyddoedd. Mae olion siafftau gweithfeydd plwm hynafol; tomennydd gwastraff a cheuffyrdd (mynedfeydd i’r siafftau llorweddol) yn frith yn yr ardal o gwmpas. Gellir cerdded at y rhan fwyaf o’r rhain. Maent yn cynnwys Gwaith Cloddio’r Cyffty, oedd yn weithredol hyd at 1921, ble gwelir nodweddion megis pyllau’r olwyn ddŵr ac olion tŷ malu (a ddefnyddid i brosesu’r mwyn plwm). Yn ogystal, mae pyllau cerwyn crwn a siafft yrru wedi’u cadw ond yn anffodus mae cwt yr injan draws a’r simnai wedi’u dymchwel ers 1966.
Ym Mwynglawdd Llanrwst (fe’i hailddatblygwyd fel canolfan awyr agored yn ddiweddar), mae llawer o’r adeiladau wedi goroesi, gan gynnwys y cwt injan, y bwylerdy, y cwt malu a’r simnai nodedig. Efallai mai’r mwynglawdd sydd wedi’i gadw orau o holl fwyngloddiau Gwydir yw mwynglawdd Dyffryn Conwy ceir nodweddion o ganol oes Fictoria, megis rheilffordd, ceuffyrdd wedi dymchwel, melin falu a yrrid â dŵr a phyllau cerwyn sydd wedi aros yn eu lleoliad gwreiddiol. Yn ogystal, mae mwynglawdd Dyffryn Conwy yn cynnwys simnai arbennig y gellir ei gweld yn glir o’r ffordd.
Roedd Mwynglawdd Plwm Hafna yn llawer mwy arloesol yn ei amser a chafodd y mwynglawdd hwn ei weithio ers y 18fed ganrif. Roedd y safle’n cynnwys sawl proses fecanyddol a chemegol i echdynnu plwm o’r dirwedd. Roedd yn cynnwys ffwrnais fwyndoddi unigryw ble byddai megin a yrrwyd gan stêm yn gwthio aer drwy’r ffwrnais gan greu tymheredd digon uchel i allu toddi’r plwm. Yna, tywalltid y metel tawdd i mewn i fowldiau.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Mynediad am Ddim
Mae'r mwyngloddiau ar hyd ffordd fechan rhwng rhwng B5106 ger Trefriw a Ty Hyll ar yr A5
Gorsaf agosaf yw Betws y Coed - 4 milltir
Safle bws agosaf yn Betws y Coed
Mae'r mwyngloddiau ar y Llwybr MTB Marin
Gellir ymweld â Hafna, Dyffryn Conwy a Cyffty drwy gerdded o'r ffordd. Mae arwyddbyst Llwybr Mwyngloddiau o faes parcio Hafna
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn Hafna/Dyffryn Conwy Maes parcio SH 781600 Maesparcio Cyffty: SH 772589 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: OS 115