Cludo teithwyr am y tro cyntaf ers 72 mlynedd
Yn wreiddiol, adeiladwyd Rheilffordd Corris i wasanaethu chwareli llechi Cwm Dulas. Fe’i hagorwyd ym 1859 fel tramffordd gul (2 droedfedd 3 modfedd) i geffylau, yn rhedeg yn wreiddiol o Gorris ac Aberllefenni i Dderwenlas. Yn yr 1870au uwchraddiwyd y trac er mwyn gallu defnyddio locomotifau stêm. Er gaethaf gwrthwynebiad gan y diwydiant llechi, yn dilyn Deddf Seneddol ym 1883, dechreuwyd rhedeg gwasanaethau i gludo teithwyr.
O ganlyniad i lai o alw am lechi o Gymru a chystadleuaeth gynyddol gan gwmnïau cludiant ffordd ar ddechrau’r 20fed ganrif, aeth y rheilffordd i drafferthion ariannol. Ym 1930 daeth y llinell o dan reolaeth cwmni Great Western Railway. Penderfynodd y cwmni ddirwyn y gwasanaeth i deithwyr i ben ym 1948, ac yn dilyn llifogydd, caewyd y llinell yn ei chyfanrwydd. Ffurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd Corris ym 1966 gan dîm brwdfrydig ac ymroddedig, ac agorwyd yr amgueddfa bedair blynedd yn ddiweddarach. Ar ôl seibiant o 72 mlynedd, ailgychwynnodd gwasanaethau i deithwyr yn 2002 o dan bŵer diesel yn gyntaf, cyn i locomotif stêm, yn seiliedig ar gynllun Kerr Stuart No. 4 gael ei adeiladu gan y gymdeithas.
Mae gan y rheilffordd nifer o nodweddion prin. O ganlyniad i natur ddaearyddol Cwm Dulas, adeiladwyd y gorsafoedd ar ochr ddwyreiniol y llinell; felly dim ond ar yr ochr hon mae drysau’r cerbydau. Nodwedd arbennig arall yw’r wagenni trestl fertigol a ddefnyddiwyd i gludo crawiau llechi ar eu hochrau er mwyn osgoi eu niweidio - yn debyg i’r modd y cludir gwydr heddiw.
Gwiriwch wefan Rheilffordd Corris
5 milltir i ogledd Machynlleth ar yr A487 wedi ei arwyddo yn glir am y Rheilffordd
Machynlleth - 6 milltir
Gorsaf bws ar yr A487 yn Corris
Ar Llwybr beicio rhif 8 Sustrans
Cario cwn wrth ddisgresiwn. Cerbydau yn addas i gadeiriau olwyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 755077 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124