O ganolfan fasnachol i icon diwylliannol
Bu glannau’r dŵr yng Nghaernarfon, sydd wedi’u lleoli ar lan y Fenai hardd, yn ganolog yn natblygiad y dref. Fe’i sefydlwyd fel canolfan fasnachu morwrol allweddol yn y canol oesoedd. Gan fod dwy afon yma, yr afon Seiont a’r afon Cadnant, roedd Caernarfon y lleoliad amlwg ar gyfer y ddolen fasnachu allweddol hon â gweddill y byd.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygwyd aberoedd y ddwy afon yn harbyrau. Roedd Doc Fictoria yn aber yr afon Cadnant yn gweinyddu masnach arfordirol cyffredinol tra bod aber yr afon Seiont yn gartref i’r Cei Llechi hanesyddol a adeiladwyd yn bwrpasol i allforio llechi lleol. Allforiwyd mwynau copr a phlwm a fwyngloddiwyd yn lleol o’r cei hefyd. Cafodd y cwrt storio ble cedwid y mwynau cyn eu hallforio ei addasu i greu ‘safle’r ynys’, sef cyfres o adeiladau y tu ôl i swyddfa’r harbwr feistr. Gellir gweld llawer o’r strwythurau hyd heddiw. Gellid bod wedi adeiladu’r cei hynaf mor gynnar â’r ddeunawfed ganrif.
Mae promenâd prydferth, yn dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn rhedeg rhwng y Cei Llechi a Doc Fictoria. Heddiw dyma gartref y Galeri, datblygiad diwylliannol mawreddog a enillodd sawl gwobr ac sy’n cynnwys oriel gelf, theatr, sinema a bwyty.
Gyda muriau mawreddog y castell a’r dref yn swatio’n dynn rhwng y ddau harbwr, mae taith gerdded ar hyd y promenâd yn rhoi cymysgfa hudolus o’r hen a’r newydd. Mae glannau’r dŵr enwog Caernarfon yn sicr am barhau i swyno’r rhai sy’n ymweld â’r dref am flynyddoedd i ddod.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Dilynwch arwyddion am y Castell o'r A487
Gorsaf agosaf yw Bangor - 9 milltir
Bysiau rheolaidd o'r orsaf bws 200 llath i ffwrdd
Ar lwybr beic rhif 8 Sustrans
Cerddwch rhwng y ddwy harbwr ar hyd y Promenâd
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: Doc Fictoria: SH 479630 a Cei Llechi :SH 478626 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115