Y ffordd orau i weld Eryri
Cychwynnodd rheilffordd fwyaf diweddar Eryri, Rheilffordd Eryri, ei bywyd yn gynnar yn y 19eg ganrif. Roedd yn rhan o gyfres o ddatblygiadau rheilffordd lein gul, a thynnwyd un o’r rhain gan geffyl. Fe’u hadeiladwyd i gario llechi o’r chwareli lleol. Caeodd y lein yn 1937 a phan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd llawer o offer y rheilffordd eu hawlio ar gyfer y rhyfel. Cychwynnwyd ei hadfer yn yr 1960au. Heddiw, gall ymwelwyr deithio o dref gaerog Caernarfon yr holl ffordd i Borthmadog gyda’r cwmni rheilffordd hynaf yn y byd sy’n dal i weithredu trenau.
O ochrau’r hen gei o dan waliau gwych y castell, mae locomotifau stêm lein gul fwyaf pwerus y byd yn tynnu allan o Gaernarfon. Maent yn cludo ymwelwyr mewn ysblander yr oes o’r blaen i odre’r Wyddfa cyn disgyn yn serth drwy’r tirlun ysblennydd i bentref hanesyddol a phrydferth Beddgelert, yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Yna, ymlaen drwy Fwlch Aberglaslyn at ddiwedd y lein ym Mhorthmadog. Beth am uwchraddio a theithio mewn steil yn un o’r Pullman Saloons Dosbarth Cyntaf? Yna, cewch fwynhau moethusrwydd fel y dylid ei fwynhau ar y siwrnai unigryw a hynod hon.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Ymwelwch â'r wefan am oriau agor a phrisiau cyfredol
Mae Gorsaf Caernarfon yn ymyl y Castell. Mae Gorsaf Porthmadog yn ymyl y Cob
Caernarfon - Gorsaf agosaf yw Bangor - 9 milltir. Mae Gorsaf Porthmadog ar Leiniau'r Cambrian
Mae'r ddau brif orsaf ar lwybr bws. www.traveline-cymru.info
Mae Porthmadog ar Sustrans llwybr 8. www.sustrans.org.uk
Rhai trenau a'r prif orsafoedd gyda mynediad i gadeiriau olwyn Cwn (Talu £3) a caniateir beics.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: Caernarfon SH 480625, Porthmadog SH 57105 38406 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115,124