Braw ac arswyd y canol oesoedd!
Saif Castell Caernarfon yn gadarnle grymus a godidog yng nghanol y dref, ac fe’i adeiladwyd i bwrpas arbennig. Roedd Edward I o Loegr wedi trechu tywysogion annibynnol Gwynedd yn ddiweddar, ac roedd am adeiladu cyfres o gaerau mawreddog fel arwydd o’r hyn a orchfygu, ac mae’n debyg mai Castell Caernarfon yw’r mwyaf ysblennydd o’r rhain.
Dechreuodd y gwaith o gwmpas y flwyddyn 1283 ar safle hen gaer tomen a beili Normanaidd dan oruchwyliaeth James o St George, prif beiriannydd Edward. Codwyd mur o gwmpas y dref i’w gwahanu oddi wrth y boblogaeth leol. Mae rhai’n dweud bod y bandiau o gerrig o wahanol liw yn waliau’r castell wedi’u hysbrydoli gan waliau mawreddog Constantinople. Roedd y castell yn wahanol i gestyll eraill yn yr ardal oherwydd ei dyrrau siâp polygon yn hytrach na thyrrau crwn a ddefnyddid fel arfer. Er ei fod yn wefreiddiol i’r llygaid, prif bwrpas y strwythur oedd amddiffyn teyrnas Edward.
Ymosodwyd ar y castell lawer gwaith ar ôl ei adeiladu. Roedd y tro cyntaf yn 1294, pan wnaeth Madog ap Llywelyn arwain byddinoedd o Gymry i Gaernarfon i wrthryfela yn erbyn y brenin Seisnig.
Sicrhaodd Edward fod genedigaeth ei fab yn y castell, er mwyn ei gyflwyno i’r bobl fel ‘Tywysog Cymru’.
Yn 1911, cychwynnodd David Lloyd George y traddodiad modern bod arwisgiad Tywysog Cymru yn digwydd yng Nghastell Caernarfon, ac fe ailadroddwyd y digwyddiad yn 1969 pan dderbyniodd Tywysog presennol Cymru y teitl.
Mae castell a muriau Caernarfon wedi’u cydnabod yn swyddogol gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd. Maent bellach yng ngofal Cadw.