Y castell drutaf yng Nghymru
Un arall o’r cestyll rhyfeddol a adeiladwyd yng Ngwynedd gan y Meistr James o St. George ar orchymyn Edward I oedd Castell Conwy. Gwariwyd oddeutu £15,000 ar adeiladu’r castell a muriau’r dref, oedd yn swm enfawr ar y pryd.
Dechreuwyd gwaith ar y castell yn 1283, ac roedd wedi’i gwblhau erbyn 1287 – dim ond pedair blynedd! Mae’n anodd i ni ddychmygu sut fyddai’r castell wedi edrych ar yr adeg hon. Ond gwyddwn, fel y cestyll eraill yn ei ddydd, y byddai’r gwaith carreg allanol wedi’i blastro drosto â rendr calch gwyn, a byddai wedi bod yn olygfa odidog i unrhyw un oedd yn dynesu ato ar y môr neu’r tir.
Adeiladwyd y castell ei hun ar graig o garreg galch lwyd oedd yn ymestyn allan i Fôr Iwerddon, sef safle Abaty Aberconwy yn wreiddiol, mynachlog Sistersaidd oedd yn fawr ei pharch gan Dywysogion Gwynedd. Wrth leoli ei gastell ar safle mor bwysig a sanctaidd, roedd Edward yn rhoi neges glir i bobl Gwynedd – peidiwch â’m herio i!
Fodd bynnag, cwta saith mlynedd yn ddiweddarach, arweiniodd Madog ap Llywelyn wrthryfel cenedlaethol yn erbyn y Saeson gan roi Conwy dan warchae. Llwyddodd y gaer i wrthsefyll y gwarchae ac fe’i rhyddhawyd gan fyddinoedd Edward yn y diwedd. Bu mwy o wrthryfela yn nes ymlaen, a’r enwocaf o’r rhain yw ymgyrch Owain Glyndŵr pan gafodd y castell, muriau a’r dref eu dal gan y gwrthryfelwyr.
Yn 1986, dyfarnwyd statws Safle Treftadaeth y Byd i Gonwy a’i chastell gan UNESCO. Mae’r castell yng ngofal Cadw.