Gwŷr Harlech
Adeiladwyd yn hynod o gyflym rhwng 1283 a 1295, mae Castell Harlech wedi’i leoli mewn llecyn delfrydol ar ben clogwyn yn edrych allan dros Fôr Iwerddon. Fe’i dyluniwyd gan bensaer milwrol Edward I, sef James o St. George a anwyd yn Savoy, a chan ddefnyddio hoff ddyluniad consentrig Edward, sef y ‘muriau tu mewn i furiau’ – felly roedd y castell i bob pwrpas yn anhreiddiadwy o bobl ongl. Er bod y môr bellach wedi cilio ymaith, roedd ar un adeg yn cyrraedd troed y clogwyn oedd yn galluogi danfon cyflenwadau hanfodol ar adegau pan oedd y castell dan warchae.
Yn 1404, aeth y castell i ddwylo’r arwr o Gymro, Owain Glyndŵr, ac am y pedair blynedd nesaf daeth yn bencadlys ei wrthryfel yn erbyn awdurdod Lloegr. Yn y pen draw fe wnaeth lluoedd oedd dan reolaeth yr hwn oedd i ddod yn Harri V lwgu’r garsiwn nes iddynt orfod ildio, ac ailfeddianwyd Harlech yn 1409. Pan gychwynnodd Rhyfeloedd y Rhosynnau rhwng tai Efrog a Chaerhirfryn, aeth Harlech dan warchae unwaith eto, y tro hwn gan frenin Iorcaidd Lloegr, Edward IV. Roedd wedi casglu byddin anferth o 10,000 o ddynion ar gyfer yr orchwyl, yn ôl y sôn a dywedir mai’r gwarchae llwyddiannus hwn a barodd am fis wnaeth ysbrydoli’r gân Ymdeithgan Gwŷr Harlech.
Cychwynnodd y Rhyfel Cartref yn 1642 rhwng y brenin a’r Senedd, a daeth Castell Harlech i feddiant lluoedd oedd yn deyrngar i’r brenin Siarl I. Unwaith eto, fe wnaeth y castell ddal ei dir yn gadarn, i’r graddau nes y bu i’r Senedd orchymyn ei fod yn cael ei ddinistrio pan beidiodd y rhyfel. Diolch byth, cafodd y gorchymyn ond ei weithredu’n rhannol, a heddiw mae Castell Harlech yn mwynhau statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae’r castell bellach yng ngofal Cadw.