Wrth ymyl coedwig Ewloe yn Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, saif rhai o adfeilion mwyaf cyfareddol y wlad. Heddiw, mae Castell Ewloe’n meddiannu man tawel, unig wrth gyffordd dwy nant. Filltir neu ddwy i’r gogledd-ddwyrain, mae Afon Dyfrdwy’n ffurfio’r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Oherwydd ei fod yn agos i Loegr, roedd hwn yn safle strategol pwysig pan adeiladwyd y castell yn y 13eg ganrif, ar anterth trafferthion y tywysogion gyda choron Lloegr. Efallai mai’r nodwedd fwyaf trawiadol yw’r tŵr tal, amddiffynnol sy’n sefyll yn rhydd, ac mae rhannau sylweddol ohono’n dal i sefyll. Mae’r strwythur siâp D hwn yn nodweddiadol Gymreig – mae’n ymdebygu’n agos i’r tŵr yng Nghastell y Bere, a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr yn y 1220au.
Mwy na thebyg adeiladwyd Castell Ewloe beth amser ar ôl Castell y Bere. Mae haneswyr yn ei adnabod fel y “castell yng nghornel y goedwig”, a gofnodwyd mewn dogfen o 1311 fel un a gafodd ei adeiladu gan Llywelyn ein Llyw Olaf (ŵyr Llywelyn Fawr) ym 1257, ar ôl iddo gipio tipyn o Sir y Fflint gan y Saeson.
Fe sylwch fod y castell yn cynnwys dau lys - neu wardiau - ar wahân sydd wedi’u hamgáu gan waliau tywodfaen melyn. Caiff yr un uchaf o’r rhain eu rheoli gan y tŵr siâp D. Mwy na thebyg y cafodd y ward is ei adeiladu’n nes ymlaen ac yn wreiddiol, byddai wedi amgáu nifer o adeiladau o goed. Mae adfeilion tai bach a ffynnon yn dyst o’i ddefnydd fel annedd.
Ar y pen gorllewinol, gallwch weld lle ffurfiodd tŵr crwn ran o’r wal. Ychwanegodd ffos ddofn ar yr ochr ddeheuol ddiogelwch pellach. Fodd bynnag, cymerwyd y castell gan Frenin Lloegr Edward I pan wthiodd i mewn i Gymru ym 1277 a daeth diwedd i’r defnydd ohono.