Rhyw filltir neu ddwy i’r gorllewin o dref fodern Bae Colwyn, fe welwch Fryn Euryn yn codi; bryn serth, llawn glaswellt yw hwn sy’n edrych dros olygfeydd gwych ar hyd arfordir gogledd Cymru. Gellir gweld olion gwrthglawdd, sy’n dyddio i’r 5ed neu’r 6ed ganrif mwy na thebyg yn y creigiau sydd wedi’u gwasgaru ar draws y copa. Cafodd yr ardal hon ei hamgylchynu’n rhannol gan wal calchfaen amddiffynnol ar un tro, ac yn is i lawr codwyd clawdd i gryfhau amddiffynfeydd naturiol y bryn.
Ymddengys bod yr enw Bryn Euryn yn dyddio o’r 19eg ganrif, ond ar adegau cynharach, roedd y safle’n cael ei adnabod fel Dinarth – ‘caer yr arth’. Efallai bod hyn yn ei gysylltu gyda rheolwr Cymreig penodol cynnar o’r 6ed ganrif, sef Cynlas Goch. Brenin pentref Rhos gerllaw ydoedd. Mae’r awdur o’r 6ed ganrif, Gildas, yn cyfeirio at Cynlas fel un sy’n perthyn i ‘noddfa’r arth’ a ddehonglwyd fel cyfeiriad at Ddinarth.
Ar y ffordd i’r copa, byddwch yn dod ar draws adfeilion trawiadol maenordy o’r 15fed ganrif, sy’n cael ei adnabod fel Llys Euryn. Y gred yw y cafodd hwn ei adeiladu ar safle preswylfan bwysig o’r 13eg ganrif, sef cartref y swyddog Cymreig Ednyfed Fychan, a oedd yn ddistain (prif weinidog) i Llywelyn Fawr a’i fab Dafydd. Chwaraeodd Ednyfed, rhyfelwr a diplomat teyrngar ac abl, ran bwysig yn y trafodaethau rhwng Llywelyn a Brenin John o Loegr.
Nid oes dim o blasty Ednyfed wedi goroesi ond mae’r adfeilion o’r 15fed ganrif, a reolir gan gorn simnai 50 troedfedd o uchder, wedi’u clirio a’u cadw’n ddiweddar ac maen nhw’n werth eu harchwilio.