Breuddwyd Macsen Wledig
Dechreuodd gwaith ar y gaer hon, y mwyaf o’r caerau Rhufeinig yng Ngwynedd, yn y flwyddyn 77 OC fel rhan o ymgyrch Agricola i gyfnerthu grym y Rhufeiniaid yn yr ardal. Roedd gan y gaer olygfeydd eang ar draws y Fenai i Ynys Môn, ac roedd rhwydwaith o ffyrdd yn ei chysylltu â chaerau eraill, yn cynnwys y pencadlys milwrol yn Deva (Caer).
Mae llawer o olion y gaer 5.6 acer wreiddiol i’w gweld heddiw. Roedd yn cynnwys adeiladau oedd yn gyffredin i’r rhan fwyaf o gaerau’r dydd, megis ysguboriau, blociau baracs, tai baddon a’r Principia, sef adeilad y pencadlys oedd yn cynnwys neuadd fawr neu basilica ac ystafell ddiogel lle roedd y nwyddau a ddefnyddiwyd i dalu cyflogau’r milwyr a drigai yno yn cael eu cadw. Canfuwyd teml Rufeinig oedd wedi’i chysegru i’r duw Dwyreiniol Mithras, y Mithraeum, gerllaw hefyd.
Mae’r gaer yn rhan bwysig o stori Macsen Wledig, sef un o bedair cainc y Mabinogi. Caiff Macsen Wledig ei adnabod fel yr herwr a’r cadlywydd Rhufeinig, Magnus Maximus, a gyhoeddodd ei fod yn Ymerawdwr yn 383. Yn y gainc, mae Macsen yn breuddwydio am ferch brydferth ‘yn y gaer wrth geg yr afon Seiont’ ac yn mynd i chwilio amdani. Elen Luyddog oedd y ferch hon, a châi ei hadnabod yn ddiweddarach fel Santes Helen o Gaernarfon.
Mae lloc wedi’i adeiladu o garreg, a elwir Hen Waliau, yn edrych dros yr Afon Seiont, ac mae’n bosib mai man storio neu ganolfan fechan er mwyn amddiffyn yr harbwr oedd hwn. Mae hwn wedi’i leoli rhyw 150 metr i’r gorllewin o’r brif gaer, a gellir gweld rhai o’r waliau gwreiddiol ger ochr y brif ffordd a’r tai gerllaw.