Dychmygwch eich bod yn cyrraedd Bangor gyda stemar bleser yn fuan yn ystod y ddeunawfed ganrif a glanio ar y pontŵn ar ben draw pier Bangor.
Daeth hyn yn wir yn 1896 i deithwyr dyddiol a oedd yn awyddus i gymryd eu gwyliau ar longau stêm a gychwynnai o Lerpwl, Blackpool ac Ynys Manaw. Adeiladwyd pier Bangor yn benodol ar gyfer y farchnad twristiaeth hon a oedd yn tyfu.
Mae’r pier yn ymestyn 460 metr i’r Fenai, a hwn yw’r pier hiraf yng Nghymru sydd wedi goroesi. Dyluniwyd y colofnau haearn bwrw cadarn sy’n cynnal y strwythur dur gan J.J.Webster, Llundain. Dylech edrych am y cabanau hardd gyda gwaith haearn dro mewn ffurf siwgr barlys sy’n cyfarch ymwelwyr ym mynedfa’r pier. Mae’r dec yn lledu i gynnwys mwy o gabannau - cytiau deniadol wyth ochrog gyda thoeau ar ffurf nionyn - a phafiliwn bychan a wasanaethai’r teithwyr a ddeuai oddi ar y llongau ar y pontŵn glanio.
Bu trychineb yn 1914 pan drawyd y pier gan yr SS Christiana, llong stêm a gludai gargo ond a dorrodd yn rhydd o’r pontŵn yn ystod y nos a difrodi prif ran y pier. Bu’r Peirianyddion Brenhinol yn helpu gyda’r trwsio dros dro ond rhwystrodd y Rhyfel Byd Cyntaf rhag i unrhyw wir waith adfer gael ei gwblhau hyd 1921. Ar ôl ei gau yn 1971, a’i brynu gan y Cyngor am un geiniog yn unig, gwelwyd y pier yn ailagor yn 1987 yn dilyn ymgyrch gyhoeddus i godi arian. Diolch i ymdrechion y fath selogion rydym yn gallu mwynhau’r tirnod hanesyddol hwn heddiw.