Roedd chwareli Blaenau Ffestiniog ynghyd â chwarel y Penrhyn a Chwarel Dinorwig yn un o’r prif fannau yn y byd am gynhyrchu llechi.
Heddiw, gall ymwelwyr ddarganfod nifer fawr o safleoedd a fewn tafliad carreg i'w gilydd sy'n tystio i'r etifeddiaeth fawr hon. Yn gyntaf, ewch i'r ganolfan treftadaeth ger gorsaf rheilffordd Ffestiniog ble mae’r stori hon wedi datblygu. Mae treftadaeth a hanes Blaenau Ffestiniog heb ei ail, yn enwedig gan fod llwybr trwy’r dref wedi’i neilltuo er mwyn ei ddathlu. Gallwch ddilyn y llwybr o gwmpas y dref a dysgu am yr hanes a’r dywediadau lleol fel yr ewch yn eich blaen. Codwch lyfr o siop leol i’ch helpu i fynd ymlaen neu lawr lwythwch y llyfr o’r wefan.
Ym Mlaenau Ffestiniog roedd y llechen bron bob amser yn cael ei hennill o dan y ddaear. Roedd dynion lleol yn gweithio oriau hir, caled yn un o sawl ceudwll ar y bryniau uwchlaw’r dref; chwareli megis yr Oakley, Llechwedd, Maenofferen, Diffwys, Foty a Bowydd a’r Graig Ddu. Mae’r tomenni sbwriel llechi yn tystio i raddfa’r diwydiant llechi yn yr ardal a’r blynyddoedd o waith caled sy’n gysylltiedig â’i hechdynnu. Mae’n rhaid i chi ymweld â Cheudyllau Llechwedd gyda’i reilffordd danddaearol yn troelli drwy dwnelau a cheudyllau os ydych ag unrhyw ddiddordeb yn nhreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol y dref enwog hon.
Ni fyddai unrhyw ymweliad â Blaenau Ffestiniog yn gyfan heb gael teithio ar Reilffordd lein gul Ffestiniog. Fe’i hagorwyd yn 1836 i gludo llechi lleol i’r cei ym Mhorthmadog ac mae’r lein yn cael ei chynnal a’i chadw gan selogion stêm hyd heddiw.
Yn 2011, cynhwyswyd Diwydiant Llechi Gogledd Cymru yn llwyddiannus ar Restr Fer y DU o safleoedd posib ar gyfer Statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO - yr unig safle yng Nghymru. Bydd yr enwebiad yn cymryd rhwng pedair a 10 mlynedd i’w gwblhau.