Dewch o hyd i etifeddiaeth chwarel yng nghanol dyffryn prydferth
Enwyd y chwarel ar ôl Dorothea Garnons, merch y perchennog ac mae adfeilion Chwarel Dorothea mewn tirlun sydd wedi’i farcio gan y diwydiant llechi. Er bod llystyfiant wedi hawlio y rhan fwyaf o’r tir, mae nodweddion sy’n gysylltiedig â’r weithgaredd chwarelu lleol a gychwynnwyd yn y 1820au i’w gweld yn glir.
Dengys y pyllau dyfnion, sy’n aml wedi gorlifo, y fan ble y tynnwyd y llechi o’r tir. Cewch weld y sylfeini llechi anferth a gaiff eu hadnabod fel mastiynau, oedd yn cynnal yr offer weindio oedd yn codi blociau mawr a rwbel o’r pyllau i fyny’r incleiniau serth.
Cymrwch eich amser i edrych ar y melinau oedd unwaith yn prosesu blociau mawr i mewn i slabiau llechi llyfn a’r cwt injan oedd yn gartref i’r injan drawst Cernywaidd. Gosodwyd yr injan yn 1906 i ddraenio dŵr o’r pwll llechi mwyaf, a hon oedd yr injan Gernywaidd newydd sbon olaf i gael ei gosod unrhyw le yn y byd.
Mae’n werth i chi ymweld â Phlas Tal y Sarn hefyd, tŷ mawr sy’n adfail gyda gerddi ffurfiol a chytiau.
Yn 2011, cynhwyswyd Diwydiant Llechi Gogledd Cymru yn llwyddiannus yn Rhestr Fer y DU o 11 safle posib ar gyfer Statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO - yr unig safle yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’r enwebiad yn y broses o gael ei ddatblygu ac mae hyn yn debygol o gymryd rhwng 4 a 10 mlynedd i’w gwblhau.