Copr gwerthfawr yn y bryniau uwchlaw Beddgelert
Mae gogledd Cymru wedi cael ei adnabod a’i werthfawrogi am ei ffynhonnell helaeth o gopr ers bore oes. Defnyddiwyd yr ardal yng nghyffiniau Beddgelert am yr adnodd hwn ers o leiaf y ddeunawfed ganrif, a chyn belled â goresgyniad y Rhufeiniaid o bosib.
Yn Ngwaith Copr Sygun, gall ymwelwyr fynd ar daith drwy’r ogofeydd melyngoch disglair sy’n annaearol o brydferth. Defnyddiwyd y twnneli hyn ddiwethaf – sy’n ddwfn o dan y ddaear ac yn llawn ffurfiadau stalagmid a stalactid – er diben masnachol ym 1903. Yng nghanol prydferthwch o’r fath, hawdd yw anghofio realiti garw’r bywyd mwyngloddio, ond roedd yn beryglus, yn dywyll a budr, heb sôn am achosi niwed i’r cefn. Chwiliwch am atgynhyrchiad o’r felin falu, sy’n hanner ei maint gwreiddiol. Roedd y darn allweddol hwn o dechnoleg yn malu’r graig a fwyngloddiwyd i echdynnu’r mwyn copr gwerthfawr.
Roedd y gwaith ar raddfa tipyn llai yng Nghwm Bychan (ger Beddgelert). Mae sawl peilon yn weladwy sy’n dotio ochr y bryniau. Yn wreiddiol, roedd y rhain yn cynnal rhaffbont awyr oedd yn cael ei defnyddio i gludo mwyn mewn bwcedi i ffatri brosesu ger Nantmor. Er ei bod wedi’i hesgeuluso rywfaint, mae llawer o’r rhaffbont yn dal yn ei lle, ac eithrio’r rhaffau sy’n gorwedd ar y ddaear. Oherwydd ei leoliad ar hyd sawl llwybr cerdded poblogaidd, Cwm Bychan yw'r lle perffaith i stopio am bicnic ac archwilio treftadaeth ddiwydiannol Gwynedd wrth eich pwysau.