Eglwys ganoloesol anghysbell sy’n edrych dros Ddyffryn Conwy odidog.
Mae eglwys blwyf Sant Celynnin ar ben bryn, ymhell oddi wrth unrhyw adeilad arall a 900 troedfedd uwchlaw pentref Henryd. Mae’r eglwys yn dyddio’n ôl i hanner olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg ac fe’i moderneiddiwyd dros y canrifoedd. Mae ychwanegiadau’n cynnwys corff o’r bymthegfed ganrif a tho o’r unfed ganrif ar bymtheg. Drws nesaf i’r bedyddfaen wythonglog mae yna groglen (yr hyn sy’n gwahanu’r côr yn y gafell oddi wrth y gynulleidfa yng nghorff yr eglwys) sydd hefyd yn dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif.
Cadwch lygad am y penglog (sydd hefyd yn cynnwys y llygaid) a thri asgwrn croes ar wal ddwyreiniol y gafell. Ni ddarganfuwyd y gweddillion dynol hyn tan 1993 ac maent wedi cael eu diogelu erbyn hyn. Ym mynwent yr eglwys mae yna ffynnon sanctaidd wedi’i chysegru i Sant Celynnin ac yr oedd pererinion yn ymweld â’r ffynnon i geisio cael eu iachau.