Capel a adeiladwyd mewn steil syml
Nid y capel y gwelwch yn Rowen (ger Conwy) heddiw oedd y cyntaf yn y lleoliad darluniadwy hwn. Cwblhawyd y capel cyntaf yn 1819, fe’i ailadeiladwyd yn 1841 ac erbyn hyn mae’n strwythur rhestredig gradd II. Ei ffenestri pengrwn syml ond coeth a’i borth sydd ar flaen yr adeilad yw nodweddion allweddol y dyluniad syml hwn. Mae Capel y Bedyddwyr hwn wedi cael ei ddefnyddio at wahanol ddibenion dros y blynyddoedd, yn cynnwys man cyfarfod sefydliad Merched y Wawr lleol.